Back
Ysbyty Calon y Ddraig

13/03/20

Rhaid i ni godi'n hetiau i staff y cyngor, o'r adrannau cynllunio, priffyrdd, rheoli adeiladu, gwastraff a datblygu economaidd, sydd i gyd wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod Ysbyty Calon y Ddraig yn barod ac yn gweithredu i'r GIG ei ddefnyddio.

Bydd y cyfleuster 2,000 gwely sydd wrthi'n cael ei adeiladu yn Stadiwm Principality yn ychwanegu at gapasiti'r bwrdd iechyd - os bydd ei angen - wrth i'n staff GIG a'n gweithwyr gofal barhau i frwydro yn erbyn yr argyfwng COVID-19 parhaus.

Yn unol â chyfraith gynllunio, mae'r stadiwm wedi mynd drwy newid erbyn hyn i ddod yn ysbyty dros dro.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Datblygu, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae ein staff yn mynd yr ail filltir yn yr amgylchiadau heriol hyn i gynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i baratoi'r ysbyty maes ar gyflymder anhygoel.

"Bydd y Cyngor yn cynnig lleoedd parcio i staff y GIG ac i gontractwyr yng nghanol y ddinas, yn ogystal â gweithio gyda Bws Caerdydd i sicrhau bod staff y GIG sy'n gweithio sifftiau yn gallu mynd a dod o'r stadiwm pan fyddant yn gweithio."

Mae'r Cyngor yn cynnal gwaith glanhau trylwyr ym maes parcio NCP yn Heol y Porth i sicrhau bod contractwyr yn gallu parcio eu cerbydau'n ddiogel. Bydd staff y GIG yn defnyddio maes parcio Gerddi Sophia gyda bysus gwennol wedi eu darparu gan Bws Caerdydd fel y gall staff fynd a dod o'r stadiwm.

Mae gwaith sylweddol hefyd yn cael ei hwyluso gan y cyngor i sicrhau y gall yr ysbyty weithredu yn effeithlon a bod cyflenwad ocsigen digonol. Mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio ar osod tanc ocsigen yn ddiogel, a gaiff ei leoliarBlas y Stadiwm, lle y bydd yn cyflenwi'r ysbyty newydd.

Bydd Tîm Ysbyty Pwynt Cyswllt Cyntaf Cyngor Caerdydd, sy'n rhan o'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ac a elwir Y Fyddin Binc, hefyd yn gweithio yn yr ysbyty maes. Byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi amrywiaeth o gleifion pan fyddan nhw'n barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Mae trigolion sy'n byw yn agos at y stadiwm wedi cael llythyr gan y Cyngor a'r bwrdd iechyd i roi gwybod iddynt am y datblygiadau. Cafodd cwestiynau ac atebion eu darparu hefyd, yn ogystal â manylion cyswllt, rhag ofn bod gan y trigolion unrhyw bryderon ychwanegol.