Back
‘Parhewch i ailgylchu gwastraff yn eich bagiau gwyrdd’

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hatgoffa i barhau i ailgylchu eu gwastraff yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r rhan fwyaf o drigolion eisoes yn gwneud hynny, ond mae rhai yn gofyn pam y dylen nhw barhau i wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy i fagiau gwyrdd pan fo gwastraff ailgylchu'r ddinas yn mynd i gyfleuster adfer ynni Viridor ym Mharc Trident yn ystod y pandemig.

Mae pedwar prif reswm pam mae angen i chi barhau i ailgylchu:

1.      Cyn gynted ag y bydd yr argyfwng wedi dod i ben - bydd y gwaith ailgylchu arferol yn ailddechrau. Os ydych yn ailgylchu yn ôl yr arfer byddwn yn gallu newid yn ôl heb fawr ffwdan. Peidiwch â thorri'r arfer ailgylchu. Wedi i'r arfer gael ei thorri, mae'n anodd ailddechrau, ac mae'n bosibl y byddwn yn dychwelyd i'r drefn arferol yn gynt nag y byddech yn ei ddisgwyl.

2.     Ni fydd digon o le yn eich biniau olwynion du ar gyfer eich gwastraff cyffredinol a'ch gwastraff ailgylchadwy. Cadwch nhw ar wahân fel bod modd gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o wastraff.

3.     Anfon y rhan fwyaf o wastraff y ddinas i gyfleuster Viridor yw'r opsiwn mwyaf diogel i drigolion a'n criwiau yn ystod yr argyfwng

4.     Mae'r Cyfleuster Adfer Ynni yn ailgylchu cyfran o'r gwastraff sy'n cael ei gyflwyno yno. Gwneir hyn drwy ailgylchu'r ddau waddod sy'n cael eu cynhyrchu drwy'r broses, sef Lludw Gwaelod (deunyddiau nad ydynt yn llosgi) a Lludw Ffliw (gweddillion a gesglir drwy'r driniaeth nwy ffliw).

Mae Viridor, sy'n berchen ar gyfleuster adfer ynni Parc Trident (ERF) yng Nghaerdydd, ac yn ei weithredu, yn dargyfeirio dros 350,000 o dunelli o wastraff na ellir ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu 30MW o drydan ar gyfer y grid cenedlaethol - digon i bweru tua 50,000 o gartrefi.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu yng Nghyngor Caerdydd: "Mae pob math o wastraff - ac eithrio gwastraff gardd - yn cael ei gasglu'n wythnosol mewn un cerbyd ar hyn o bryd ac mae'r gwastraff hwn yn cael ei gludo i Gyfleuster Adfer Ynni i'w drin.

"Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond mesur dros dro yw hwn a weithredir i sicrhau y gallwn gynnal gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd ledled y ddinas tra hefyd yn cefnogi iechyd a lles y gweithlu a phreswylwyr yn ystod cyfnod y cloi.

"Nid yw'r Cyfleuster Adfer Ynni yn gallu prosesu gwastraff gardd gwyrdd, gan ei fod yn achosi anawsterau gweithredu sylweddol i'n contractwr.  Dyma pam rydym yn gofyn i drigolion storio'r gwastraff hwn yn eu gardd nes bod yr argyfwng drosodd. Rhowch eich gwastraff bwyd a hylendid yn eich biniau olwynion du, ac os ydych yn byw mewn ardal bagiau streipiau coch parhewch i ddefnyddio eich cadi bwyd brown ar gyfer gwastraff bwyd.

"Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cael gwared ar wastraff o strydoedd y ddinas mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Rhaid i ni wneud hyn gyda llai o adnoddau oherwydd yr argyfwng COVID-19 a'r cymorth ychwanegol rydyn ni'n ei roi i'r GIG. Ein neges i'n holl breswylwyr yw parhewch i ailgylchu eich gwastraff yn y bagiau gwyrdd. Mae'n ein helpu ni, yn helpu'ch cymdogion ac mae'n helpu'r ddinas."