Back
Cyflwyno system unffordd dros dro i gerddwyr i hwyluso ymbellhau cymdeithasol yn Llyn Parc y Rhath

17/04/20

Mae system unffordd dros dro ar gyfer cerddwyr o amgylch Llyn Parc y Rhath yn cael ei chyflwyno'r penwythnos hwn i helpu preswylwyr lleol i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol pan fyddant yn mynd am eu hymarfer dyddiol.

Mae'r cynllun peilot, a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn 18 Ebrill, yn ymateb i bryderon a godwyd gan breswylwyr lleol a bydd yn creu system unffordd glocwedd ar hyd y llwybr o amgylch y llyn. Bydd yn parhau ar waith am saith diwrnod yr wythnos hyd nes y nodir yn wahanol.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod yn y parc i ddangos i breswylwyr lleol ac ymwelwyr sut y bydd y system newydd yn gweithio a bydd staff wrth law y penwythnos hwn i helpu pobl i ddod i arfer â'r trefniadau newydd.

Bydd traffig dwyffordd yn cael ei gynnal ar Wild Gardens Road, Lake Road East a Lake Road West, rhwng y Gerddi Gwyllt a'r promenâd. Yma, bydd yr holl leoedd parcio i ymwelwyr yn cael eu tynnu, yn agosaf at y Llyn, a fydd yn creu lle ychwanegol i feicwyr a loncwyr.

Mae'r newidiadau i gynllun y briffordd wedi'u cynllunio i annog pobl i beidio â gwneud teithiau nad ydynt yn hanfodol mewn car i'r ardal.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Yn gyffredinol, mae defnyddwyr y parc wedi bod yn gwneud eu gorau i ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol dau fetr a osodwyd gan y Llywodraeth, ond mae Llyn Parc y Rhath yn un ardal lle mae maint y llwybrau, ynghyd â phoblogrwydd y parc, wedi gwneud hyn yn fwy anodd mewn gwirionedd.

"Trwy gadw pobl i symud i un cyfeiriad a chynyddu'r lle sydd ar gael iddynt, rydym yn gobeithio y bydd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r parc mewn ffordd gyfrifol a fydd, yn ei dro, yn ein helpu i gadw'r parc ar agor i bobl ei fwynhau yn ystod y pandemig."

Er mwyn sicrhau y gellir defnyddio'r ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddiogel, ac annog teithio llesol o'r cymdogaethau gerllaw'r llyn, mae parth 20 mya brys hefyd yn cael ei gyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth,  "Mae annog teithio llesol trwy greu mwy o le ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn rhywbeth rydym eisoes yn ei sefydlu ar draws y ddinas. Gyda llawer llai o gerbydau ar y ffordd, a chyfyngiadau ar deithiau nad ydynt yn hanfodol, mae'n gwneud synnwyr i ailddyrannu'r gofod hwn i fathau eraill o drafnidiaeth.

"Rydym yn gwybod o gyflwyno cynlluniau 20 mya yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r ddinas y gallant fod yn ffordd wirioneddol dda o wneud ein strydoedd yn fwy diogel ar gyfer cerdded a beicio, a gobeithio y bydd yn annog pobl sy'n byw yn yr ardal gyfagos i gerdded neu feicio i'r llyn ar gyfer eu hymarfer dyddiol"

Disgwylir i'r system unffordd o amgylch y llyn gael ei threialu ar y penwythnos sy'n dechrau ar 18 Ebrill. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun yn cael ei estyn tan o leiaf 26 Ebrill gyda'r bwriad o weithredu mesurau mwy parhaol ar gyfer cyfnod hwy o COVID-19.