Back
Contractwyr priffyrdd y Cyngor yn paentio negeseuon yn diolch i'r GIG ar ffyrdd yn arwain i Ysbyty'r Waun

 22/04/20

Caiff marciau ffordd dwyieithog gyda'r neges glir - ‘Diolch i'r GIG' - eu paentio ar dair ffordd sy'n arwain i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan.

Gosodwyd y marciau ffordd y talwyd amdanynt gan gontractwyr y Cyngor, Roman Road Lining ac Amberon Traffic Management, am fore heddiw.

Mae'r marciau 12 metr gan 4 metrsydd wedi'u paentio'n felyn yn deyrnged arall i staff rheng flaen y GIG, wrth iddynt barhau â'u gwaith hanfodol yn mynd i'r afael â'r feirws COVID-19.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild, "Mae hwn yn gyfnod heriol, ond bydd codi calon ein holl Weithwyr Allweddol yn hollbwysig i'r gwaith o lwyddo ymdopi â'r sefyllfa hon yr ydym i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd.

"Mae staff y GIG yn gwneud gwaith gwych mewn amgylchiadau anodd iawn.  Mae'r Cyngor yn gwneud popeth y gall i gynorthwyo'r Bwrdd Iechyd, a bydd yn parhau i wneud hynny. "

Caiff y marciau ffordd eu paentio ar y ffordd yn y lleoliadau canlynol:

 Y ffordd ymuno bwrpasol sy'n arwain i'r ysbyty o Gyfnewidfa Gabalfa

Y ffordd ymadael bwrpasol oddi ar yr A48 tuag at yr ysbyty

Y rhan o ffordd breifat sy'n eiddo i'r Bwrdd Iechyd wrth i chi fynd i mewn i'r ysbyty o King George V Drive, sef Parc y Mynydd Bychan.