Back
Diweddariad COVID-19: 23 Ebrill

Yn y diweddariad COVID-19 a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd heno: galw cynyddol am ddanfoniadau cartref Marchnad Caerdydd; y gwasanaeth cerddoriaeth yn dal ati; a lansio MindHub i gynorthwyo ag iechyd a lles plant a phobl ifanc.

 

Newid oriau agor Marchnad Caerdydd wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol ganolbwyntio ar ddanfoniadau cartref

Mae marchnad Caerdydd yn lleihau ei horiau agor dros dro wrth i fasnachwyr bwyd hanfodol barhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau danfoniadau cartref yn ystod pandemig COVID-19.

Dim ond ar fore Sadwrn y bydd y farchnad yn agor erbyn hyn, o 8am tan ganol dydd.

Mae'r fynedfa a'r allanfa drwy Heol y Drindod, er mwyn i dîm y farchnad allu rheoli nifer y cwsmeriaid sy'n dod i mewn i'r adeilad a sicrhau system ciwio ddiogel.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae nifer isel y cwsmeriaid yng nghanol y ddinas yn ystod y cyfnod cloi wedi cael effaith amlwg ar nifer y cwsmeriaid yn y farchnad."

"Bydd y newidiadau dros dro hyn yn galluogi'r masnachwyr i barhau i ganolbwyntio ar ochr gyflenwi eu busnesau, yn rhyddhau ein staff ar gyfer dyletswyddau eraill, a pharhau i wneud yn siŵr bod y rhai sydd eisiau siopa yn y farchnad yn gallu parhau i wneud hynny."

Masnachwyr sy'n aros ar agor yw:

E Ashton (Fishmongers) Limited

Mae Ashton's, sydd wedi bod yn rhan o Farchnad Caerdydd ers ei hagor yn 1891, yn cynnig gwasanaeth cownter ffres a danfoniadau am ddim ledled y ddinas. Ashton's yw gwerthwyr pysgod annibynnol mwyaf Cymru, ac mae eu gwerthwyr pysgod medrus yn gallu cynnig y dewis gorau a mwyaf eang o bysgod i'w gwsmeriaid. Ffoniwch eu llinell archebu ar 029 2022 9201 i gael danfoniad am ddim.

JT Morgan Butchers

Mae JT Morgan Butchers, a sefydlwyd yn 1861, yn fusnes teuluol sydd wedi cael canmoliaeth gan bobl fel Rick Stein, Raymond Blanc ac Angela Gray. Maent yn darparu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, gan gynnwys cig oen morfa heli. Cysylltwch â llinell archebu JT Morgan ar 029 2038 8434 i holi am ddanfoniadau.

K Blackmore & Sons Butchers

Mae gan Blackmore Butchers enw da am gynnig cigoedd o safon a thoriadau anarferol. Maent wedi bod yn rhan o'r farchnad ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt lawer o gwsmeriaid ffyddlon. O doriadau cig eidion o safon, i gig gafr a phen moch, mae cigyddion Blackmore yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth heb ei ail. Ffoniwch 029 2039 0401 i gael gwybodaeth am ddanfoniadau.

Sullivans Fruit & Veg (DANFONIADAU CARTREF YN UNIG)

Mae Sullivans Fruit and Veg yn fusnes teuluol, annibynnol gyda dros 50 o flynyddoedd o brofiad. Mae Sullivans yn cynnig bocsys ffrwythau a llysiau ar ben eu harchebion arferol ac yn cynnig gwasanaeth danfon am ddim ar gyfer archebion dros £10. Maent hefyd yn cyflenwi llaeth, wyau a choed ar gyfer stofiau llosgi coed fel rhan o'u gwasanaeth danfoniadau. Archebwch ar-lein drwy:

www.cardiffgreengrocer.com

 

Ymlaen â'r gân i gerddorion ifanc Caerdydd

Mae cerddorion ifanc Caerdydd a'r Fro yn gallu parhau i ddysgu, ymarfer a mwynhau cerddoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd sydd ohoni.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cyngor Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu nifer o ddulliau digidol o gyflwyno hyfforddiant cerddorol, gwersi un i un ac ymarferion.

Mae staff wedi addasu i'r dulliau newydd o weithio, gan drefnu cyfarfodydd ac ymarferion rhithwir fel y gall bandiau, corau a cherddorfeydd barhau i gyd-chwarae yn ogystal â chynnig cyfleoedd i deuluoedd fwynhau cerddoriaeth gyda'i gilydd.

Dywedodd Emma Coulthard, Pennaeth y Gwasanaeth: "Mae cerddoriaeth yn uno pawb ac o ran lles yr unigolyn alla i ddim meddwl am unrhyw beth arall sy'n well. 

"Rydym mor falch o allu sicrhau bod ein disgyblion yn gallu parhau i chwarae ac yn gyffro i gyd o fod yn defnyddio technoleg newydd i gyrraedd hyd yn oed mwy o ddisgyblion."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn y cyfnod anarferol a heriol hwn, gall cerddoriaeth wir helpu i godi calon a chyfleu ymdeimlad o fod yn un sydd ei angen yn fawr.

"Mae'r gwasanaeth cerddoriaeth wedi gweithio'n galed i sicrhau y gall plant a phobl ifanc barhau gyda'u hyfforddiant cerddoriaeth, sy'n sicr o fod yn ffordd werthfawr a phleserus o wario amser tra bydd yr ysgolion ar gau."

 

Lansio MindHub i gynorthwyo ag iechyd a lles plant a phobl ifanc

Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi datblygu gwefan i gynorthwyo plant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn.

Mae'r wefan, o'r enw MindHub yn www.mindhub.wales, yn borth ar-lein i wasanaethau sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol, iechyd meddwl a lles. Roedd plant a phobl ifanc wedi nodi, er mwyn cael yr help sydd ei angen arnynt ar-lein, bod angen clicio 16 gwaith ar dudalennau neu ddolenni. Roeddent am leihau nifer y cliciau yr oedd angen i bobl eu gwneud ac felly datblygwyd MindHub ac mae creu'r wefan hon wedi lleihau nifer y cliciau i 3.

Mae pwysigrwydd yr angen i gynorthwyo plant a phobl ifanc i fod yn rhan o ddatblygiadau, sy'n sicrhau atebion ystyrlon ac effeithiol, yn ganolog i waith Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. . Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol ym mywydau plant a phobl ifanc sy'n byw yma, ac ymdrechion Caerdydd tuag at fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF.