Back
Bydd mynwentydd yn ail-agor yng Nghaerdydd a Phont y Gored Ddu yn cau

Bydd pedair mynwent yng Nghaerdydd yn ail-agor i aelodau'r cyhoeddo ddydd Sadwrn (25 Ebrill),gyda thimau newydd eu hadleoli i sicrhau bod y broses o ymbellhau cymdeithasol yn cael ei chynnal ac na chaiff y gofodau eu defnyddio'n amhriodol yn ystod argyfwng COVID-19. 

Mynwentydd Cathays

Mae'r Cyngor yn galw ar y cyhoedd i ymweld â'r mynwentydd os ydynt yn ymweld â bedd neu ar gyfer angladd yn unig er mwyn parhau i arfer ymbellhau cymdeithasol. Ar destun ar wahân, mae Pont y Gored Ddu dros Afon Taf yn cael ei chau i'r cyhoedd ar ôl i bobl anwybyddu arwyddion yn galw ar bobl i gadw pellter cymdeithasol er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro.

Caewyd y mynwentydd dros dro i'r cyhoedd ddechrau mis Ebrill yn dilyn penwythnos o nifer anarferol o uchel o ymwelwyr â'r safleoedd ac adroddiadau y bu pobl yn cynnal picnics, gemau pêl a chriwiau mawr yn ymgynnull yn gymdeithasol yn y tiroedd. Pan gaewyd y mynwentydd, dywedodd y Cyngor y câi'r penderfyniad ei adolygu'n barhaus.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael: "Rydym wedi dweud o'r dechrau mai mesur dros dro oedd hwn ac y byddai'n cael ei adolygu'n barhaus ac rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa i adleoli timau i helpu i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal ar y safle ac y gallwn ail-agor y mynwentydd.

"Rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r rhai a fu'n methu ag ymweld â bedd anwylyd, a byddwn yn gofyn i bobl, nawr bod y mannau pwysig hyn ar agor, sicrhau eu bod yn eu defnyddio'n briodol ac yn cynnal pellter diogel oddi wrth eraill os ydynt yn ymweld."

Oddydd Sadwrn,bydd staff, yn bennaf wedi eu hadleoli o wasanaeth Parciau'r Cyngor, gyda chefnogaeth gan Heddlu De Cymru, yn bresenoldeb gweledol ym Mynwentydd Cathays, y Gorllewin, Draenen Pen-y-Graig a Phantmawr a byddant yn monitro yn agos sut caiff y safleoedd eu defnyddio;byddant ar agor o 8am tan 6pm.

Bydd timau o'n gwasanaeth parciau hefyd yn parhau â'u patrolau ar y cyd â Heddlu De Cymru ar draws parciau a mannau gwyrdd Caerdydd.

Dywedodd y Cyng Bradbury: "Mae ein tîm Parciau wedi ymateb yn wych i'r sefyllfa bresennol a hoffwn ddiolch iddynt am yr ymagwedd hyblyg y maent wedi'i dangos at eu gwaith. Rydym wedi bod yn falch o ymddygiad y cyhoedd yn ein parciau dros yr wythnosau diwethaf, mae'n ymddangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn gwrando ar y neges i aros gartref, aros yn ddiogel ac arfer ymbellhau cymdeithasol wrth ddefnyddio ein parciau ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn yn digwydd hefyd yn ein mynwentydd."

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cymryd camau i sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn digwydd yn Llyn Parc y Rhath, gan gyflwyno system unffordd o fynd o amgylch y llyn, a chytunwyd ar gynlluniau heddiw hefyd i gau Pont y Gored Ddu dros dro.

Pont y Gored Ddu

Dywedodd y Cynghorydd Bradbury: "Mae arwyddion yn gofyn i bobl groesi mewn un cyfeiriad ar y tro yn unig, a chadw pellter cymdeithasol, wedi bod ar waith ym Mhont y Gored Ddu ers rhai wythnosau bellach. Rydym wedi treulio llawer o amser yn monitro'r ardal, ynghyd â'n cydweithwyr yn Heddlu De Cymru, yn ceisio atgyfnerthu'r neges honno, ond yn anffodus, er gwaethaf rhybuddion clir y gellid cau'r bont oherwydd diffyg cydymffurfio, ni wrandawyd ar y neges.

"Rydym wedi bod yn edrych ar amrywiaeth o bosibiliadau i geisio cadw'r bont ar agor, ond y realiti yw bod cynnal pellter o ddau fetr yn anodd iawn ar bont sydd ond ychydig dros un metr o led.

"Byddai cadw'r llwybr hwn ar draws yr afon ar agor yn gofyn am adnoddau staff sylweddol, adnoddau sy'n brin ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa bresennol, a gellid eu defnyddio er budd gwell i'r cyhoedd mewn mannau eraill - yn enwedig o ystyried bod pontydd llawer lletach ar gael tua'r gogledd a'r de, lle mae'n llawer haws croesi'r afon a chadw pellter diogel.

"Rydym yn sylweddoli y gallai hyn achosi peth anghyfleustra a byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa gyda'r bwriad o ail-agor y bont cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl."