Back
COVID-19: Hyfforddiant Dysgu o Bell arloesol ar gyfer athrawon Caerdydd



 29/4/2020

Mae hyfforddiant arloesol wedi cael ei ddatblygu i gynorthwyo athrawon Caerdydd i barhau i gynnig addysg a dysgu i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod o gau ysgolion, oherwydd COVID-19.

Y prosiect partneriaeth rhwng y Cyngor a'r Brifysgol Agored yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i athrawon ar ffyrdd o weithredu dysgu o bell.

Bydd cyfres o feysydd yn cael eu darparu drwy seminar ar-lein gyda'r nod o helpu athrawon i gynnig ffyrdd o fynd ati a chyflawni'r canlyniadau dysgu gorau ar gyfer disgyblion o oedran cynradd ac uwchradd, tra bod ysgolion yn parhau ar gau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hwn yn gyfnod unigryw a heriol i bawb, yn enwedig ein plant a phobl ifanc y mae eu bywydau wedi newid yn sylweddol ar ôl cau ysgolion.

"Gyda tharfu ar drefn arferol a llai o ryngweithio cymdeithasol gyda ffrindiau, mae hyd yn oed yn bwysicach eu bod yn parhau i gael cyfleoedd addysg a dysgu lle bynnag y bo modd.

"Bydd y fenter flaengar ddiweddaraf hon yn anelu at gynnig llwyfan fel y gall athrawon y ddinas gael gafael ar yr adnoddau a'r wybodaeth sydd eu hangen, i'w galluogi i barhau i addysgu yn ystod yr argyfwng iechyd presennol."

Mae'r Brifysgol Agored yn bartner i Addewid Caerdydd sef menter Cyngor Caerdydd sy'n dod â'r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i weithio mewn partneriaeth i gysylltu pobl ifanc â'r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith.

Nod Addewid Caerdydd yw sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn cael swydd yn y pen draw a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.

Dywedodd Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru: "Ers dros 50 mlynedd, mae'r Brifysgol Agored wedi bod yn geffyl blaen o ran dysgu o bell, ac ers dechrau'r 2000au, mae'r rhan fwyaf o'n haddysgu wedi cael ei wneud ar-lein. Mae cau ysgolion yn sydyn ledled Cymru wedi creu mwy o alw am ddulliau addysgu ar-lein, a dyna pam rydym yn falch ein bod wedi gallu rhoi'r bartneriaeth hon ar waith gyda Chyngor Caerdydd mor gyflym.

"Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o Addewid Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd a chyflogwyr dros y misoedd nesaf i helpu mwy o bobl ifanc mewn gwaith a dangos manteision dysgu gydol oes iddyn nhw.
 

Ychwanegodd Louise: "Ni chafodd y Brifysgol Agored ei chreu i fod yn brifysgol yn unig. Fe'i gwelwyd yn fenter gymdeithasol o'r dechrau. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, mae ein cenhadaeth gyhoeddus wrth wraidd popeth a wnawn, ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy hanfodol na heddiw. Yn ogystal â'r cydweithio hwn â Chyngor Caerdydd, rydyn ni'n helpu elusennau i roi hyfforddiant i wirfoddolwyr, ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr ffyrlo a dysgwyr ôl-16 - drwy ein dysgu ar-lein."