Back
Diwrnod VE yng Nghaerdydd
Mae digwyddiadau mawr oedd ar y gweill i ddathlu tri chwarter canrif ers diwrnod VE yng Nghaerdydd a ledled Cymru wedi cael eu canslo oherwydd pandemig parhaus Covid-19, ond mae trigolion yn cael eu hannog i nodi'r foment bwysig hon yn ein hanes – mewn ffyrdd sy'n ystyried y cyfyngiadau presennol.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dan De’Ath:  "Mae tri chwarter canrif wedi mynd heibio ond mae arnom ddyled o ddiolchgarwch o hyd i bawb a fu’n rhan o’r Ail Ryfel Byd, boed hynny ar faes y gad neu ar y ffrynt cartref.

"Mae’r dathliad hwn yn amser pan ddylen ni i gyd aros a diolch am yr aberth a wnaed i sicrhau buddugoliaeth yn Ewrop."

Mae nifer o weithgareddau i goffáu'r dyddiad yn digwydd ledled y DU:

·       Am 11am, bydd y digwyddiadau coffáu yn dechrau gyda moment o gofio mewn dau funud o dawelwch.

·       Am 3pm, bydd araith 1945 Syr Winston Churchill i'r genedl yn cael ei darlledu ar y BBC fel rhan o raglenni arbennig sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y diwrnod.

·       Am 9pm, bydd y Brenhines Loegr yn darlledu neges i'r DU ar y BBC – ar yr union adeg y siaradodd ei thad, y Brenin Siôr VI, ar y radio yn 1945.

·       Yn dilyn hyn, bydd cyfle i bobl ymgynnull ar garreg eu drws a chanu 'We’ll Meet Again' i ddathlu.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Bydd pobl ledled Caerdydd, yn ddigon teg, eisiau talu teyrnged i'r dynion a'r menywod a fu'n helpu i drechu ffasgiaeth yn Ewrop, boed hynny drwy ymuno â ni mewn coffadwriaeth ddistaw neu wrth ymgynnull ar garreg eu drws mewn cân. Mae arnom gymaint i'r aberth a wnaed yr holl flynyddoedd yn ôl ac mae'n bwysig y cânt eu cofio a'u dathlu.

"Heddiw rydym yn wynebu her wahanol iawn ar ffurf Covid-19. Mae'r rheolau ymbellhau cymdeithasol presennol ar waith i achub bywydau a byddwn yn annog pawb i dathlu’r dyddiad pwysig hwn o ddiogelwch eu cartrefi, ac i barhau i gadw at y rheolau yn ein parciau, ac ar ein strydoedd drwy gydol penwythnos gŵyl y banc eleni. Beth am i ni gymryd ysbrydoliaeth gan ddewrder a hunanaberth ein cenhedlaeth orau, gan wybod, pan fydd yr amser yn iawn, y byddwn ninnau hefyd yn cwrdd eto."

Mae amrywiaeth o syniadau ar gyfer nodi’r achlysur yn ddiogel, gan gynnwys gweithgareddau a gemau i blant, syniadau a hen ryseitiau ar gyfer cynnal te parti ar thema'r 1940au, ar gael yn https://ve-vjday75.gov.uk/

Mae Amgueddfa Caerdydd hefyd wedi rhoi’r arddangosfa arfaethedig, 'Dyddiau Buddugoliaeth' i chi ei gweld ar-lein. Mae'r arddangosfa yn cynnwys straeon personol a ffotograffau o Ddiwrnod VE, Diwrnod VJ a dathliadau diwrnod heddwch, yn ogystal â ffotograffau o wrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa.

Fel holl waith yr Amgueddfa, mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar straeon gan bobl Caerdydd ac mae'n cynnwys atgofion pobl o Gaerdydd a oedd yn blant ar y pryd, yn ogystal â ffotograffau o bartïon stryd a gynhaliwyd ar hyd a lled y ddinas. 

I weld yr arddangosfa, ewch i:https://cardiffmuseum.com/cy/arddangosfeydd-ar-lein/