Back
COVID-19: Cyhoeddi cymorth ariannol i gartrefi gofal Caerdydd

 

7/5/2020
 
Mae Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Cartrefi Nyrsio a Phreswyl (CCNP) yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod gan gartrefi gofal Caerdydd yr hyn sydd ei angen arnynt i wynebu'r heriau o ofalu am bobl gyda COVID-19.

Yn dilyn ymgynghoriad ar y cyd a gynhaliwyd i fanylu ar y costau i gartrefi gofal sydd ynghlwm â COVID-19, mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cyfran o grant o £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn sicrhau y cefnogir cartrefi gofal ledled y ddinas yn ystod y pandemig presennol a'u bod yn parhau i weithredu, yn ogystal â chynnig cymorth i wasanaethau oedolion hanfodol eraill.

Y Cyngor fydd yn gweinyddu'r cyllid a fydd yn sicrhau £80 yr wythnos yn ychwanegol i bob darparwr gofal  fesul gwely a brynir gan y Cyngor, am gyfnod o 11 wythnos, tan ddiwedd mis Mai. Caiff hyn ei ôl-ddyddio o ddechrau'r argyfwng ym mis Mawrth a bydd yn ychwanegol i'r ffioedd lleoliad a gytunwyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Rydym yn gwybod bod gan gartrefi gofal wariant ychwanegol yn ymwneud â'r argyfwng iechyd presennol a chynhaliwyd ymgynghoriad i sicrhau y gallen ni sicrhau'r lefel gywir o ariannu gan Lywodraeth Cymru.

"Mae'r gwaith amserol a gyflawnwyd gan CCNP i nodi'r costau ychwanegol hyn wedi gwneud argraff gadarnhaol arnom, ac mae'r broses wedi galluogi'r Cyngor i ddeall safbwynt y darparwr. Drwy wrando ar bryderon cartrefi gofal, rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i'r canlyniad gorau o fewn yr adnoddau sydd ar gael i helpu darparwyr ar yr adeg anodd yma.

"Drwy weithio mewn partneriaeth, mae wedi bod yn bosibl rhoi'r prosesau cywir ar waith i gefnogi cartrefi gofal wrth iddynt reoli achosion o COVID, sydd hefyd yn cyfrannu at gefnogi'r GIG. Mae'r adborth gan ddarparwyr wedi bod yn gadarnhaol ac rwy'n gobeithio y gellir defnyddio dull aml-asiantaeth Caerdydd fel esiampl i weddill Cymru."

Dywedodd Nava Navaratnarajah, ysgrifennydd CCNP: "Ymgynghorodd yr arolwg â chartrefi gofal yn ardal Caerdydd ar sut i fynd i'r afael â phroblemau llif arian a wynebwyd yn ystod COVID-19.

"Mewn cwta dri diwrnod i gwrdd â therfynau amser caeth, roeddem hefyd wedi ystyried yr angen am grantiau cynaliadwyedd pellach yn lle'r incwm a gollir yn sgil cyfraddau preswyl is yn ystod y pandemig. Tynnodd yr arolwg sylw at wahanol senarios a nodi pa gymorth sydd ei angen ac ymhle.

"Mae'r sector gofal cymdeithasol yn gweithio law yn llaw â'r GIG ac mae'n hanfodol bod cartrefi gofal yn cael eu cydnabod am eu gwerth wrth gefnogi iechyd a llesiant pobl Cymru. O ystyried bod yr adnoddau sydd ar gael yn brin, teimlwn fod y gefnogaeth y cytunwyd arni gan Gyngor Caerdydd yn mynd ymhell iawn tuag at helpu i gefnogi'r sector cartrefi gofal yn ystod COVID