Back
Cynghorau i fabwysiadu dull gyffredin i sicrhau y gall canolfannau ailgylchu gael eu gweithredu’n ddiogel cyn ystyried a

9/5/20

Mae cynghorau yng Nghymru wedi cytuno y byddant angen hyder mewn lefelau staffio digonol, cydymffurfiant iechyd a diogelwch, ac ymgynghori gydag Undebau Llafur, cyn gallu ystyried ail-agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau) mewn ardaloedd lleol.

Ar ddydd Gwener, cadarnhaodd y Prif Weinidog gynlluniau i newid rheoliadau i ganiatáu teithio i safleoedd ailgylchu pan y cânt eu hail-agor yn y dyfodol. Tra bod y newid yma'n galluogi cynghorau i ail-agor safleoedd, mae nhw'n annhebygol o wneud hynny'n syth gan y bydd pob awdurdod yn penderfynu yn unigol os yw hi'n ddiogel i wneud hynny yn unol â'r sefyllfa yn eu hardal.

Bydd cynghorau yn hysbysu trigolion o unrhyw gynlluniau ac amserlen ar gyfer ail-agor ymhob ardal leol.

Ers cyflwyno'r cyfyngiadau, mae canolfannau ailgylchu wedi parhau i fod dan glo i leihau teithio diangen. Mae cynghorau yn dal i adolygu'r sefyllfa o hyd i hybu trigolion i gydymffurfio â'r mesurau.

Mae pob cyngor wedi cytuno ar set o griteria y bydd yn rhaid eu cwrdd cyn y gallant ystyried ail-agor unrhyw safleoedd ailgylchu yn ddiogel. Bydd yn rhaid i gynghorau fod yn fodlon:

       Bod lefel briodol o staff ar gael i weithredu'r cyfleusterau.

 

       Y gallai'r safleoedd gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys glanweithdra, ymbellhau cymdeithasol â'r goblygiadau o ran rheolaeth traffig

 

       Bod Undebau Llafur yn cael eu ymgynghori i gytuno'r sail ar gyfer ailagor a gweithredu'r Canolfannau