Back
Diweddariad COVID-19: 11 Mai

Yn y diweddariad COVID-19 diweddaraf gan Gyngor Caerdydd: yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; ailddechrau gwaith ar uwchraddio lôn feiciau Heol y Gogledd; darparu cymorth digidol ar-lein yn ystod yr argyfwng; dathlu Pythefnos Gofal Maeth; a gwobr arall i bartneriaeth adeiladu tai y cyngor.

 

Casgliadau Gwastraff Gardd Untro ar ddydd Sadwrn yn parhau

Dyma nodyn i'ch atgoffa y cynhelir casgliadau gwastraff gardd untro ar ddydd Sadwrn y mis hwn.

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu arDdydd Mercheryn cael casgliad gwastraff garddddydd Sadwrn yma, 16 Mai.

Casglwyd dros 700 tunnell o wastraff gardd ar y ddau ddydd Sadwrn cyntaf ym mis Mai, o'r ardaloedd y ddinas sy'n cael casgliadau ar ddydd Llun a dydd Mawrth, gyda'r ddau ddydd Sadwrn olaf yn y mis wedi'u neilltuo ar gyfer ardaloedd sy'n cael casgliadau ar ddydd Iau a dydd Gwener.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

I weld cwestiynau ac atebion am y casgliadau gwastraff gardd untro yn ystod mis Mai, ewch i:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/23726.html

 

Gwaith i fynd rhagddo ar gam 2 yr Uwchraddiad i Lwybr Beicio Heol y Gogledd

Bydd contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, yn ail-ddechrau gwaith ar Gam 2 Uwchraddio Llwybr Beicio Heol y Gogledd.

Er mwyn sicrhau y gall staff ymbellhau yn gymdeithasol yn ddiogel tra'n gweithio, bydd y llwybr rhwng ffordd fynediad yr orsaf ambiwlans a Llys Tal-y-bont Road wedi ei gau i'r cyhoedd tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo.

Bydd y llwybr wedi cau o Ddydd Llun 18 Mai ac nid oes disgwyl iddo ail-agor tan fis Gorffennaf.

 

Cymorth digidol ar-lein ar gyfer pob lefel yn ystod yr argyfwng presennol

Mae ein Tîm Cymorth Digidol wedi bod yn gweithio'n galed i symud eu gwasanaethau wyneb yn wyneb i'r byd digidol.

Fel arfer, byddai'r tîm, sy'n rhan o Wasanaeth Addysg Oedolion y Cyngor, yn cynnal sesiynau cymorth digidol mewn hybiau, ond wrth ymateb i argyfwng COVID-19, maent yn awr yn cynnig eu gwasanaethau ar-lein bob wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm (ac eithrio gwyliau banc).

Mae'r tîm wedi bod yn gweithio i greu canllawiau 'cymorth' defnyddiol a rhoi adnoddau i unigolion sy'n dymuno hybu eu sgiliau digidol wrth sicrhau eu bod yn adnabod ac yn cyrraedd y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned y mae angen help arnynt a modd i gyrchu dyfeisiau a chysylltiadau ar-lein.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau am gysylltiadau band eang yn y cartref, sgamiau ar-lein sydd ar led ynglŷn â'r coronafeirws ac ymholiadau staff ynglŷn â sut i ddefnyddio Skype/Microsoft Teams i gynnal cyfarfodydd rhithwir.

Nod y sesiynau cymhorthfa ddigidol yw ymateb i bob angen digidol wrth i bawb addasu i weithio gartref a chael eu haddysgu gartref. Mae pobl yn profi technolegau a meddalwedd newydd ac weithiau gall pethau fynd yn drech na nhw, sy'n rhywbeth y mae'r Tîm Cymorth Digidol yn ei ddeall a dyna pam eu bod yno i helpu.

Mae'r cymorth yn cynnwys sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd, help gyda bancio ar-lein, creu cyfeiriad e-bost, cwblhau ceisiadau ar-lein, help gyda siopa ar-lein, defnyddio cyfryngau cymdeithasol, talu biliau a mwy.

Er mwyn cysylltu, dechreuwch sgwrs ar un o'u llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (a restrir isod) neu cyflwynwch ymholiad trwy'r ffurflen ganlynol:

https://form.jotform.com/201123417217038

Bydd aelod o'r Tîm Cymorth Digidol yn cysylltu naill ai drwy sgwrs, e-bost, galwad fideo neu alwad ffôn i'ch cynorthwyo.

Facebook:

https://www.facebook.com/digisupportcardiff/neu tagiwch@digisupportcardiff 

Twitter:

https://twitter.com/digisuppcardiffneu tagiwch@digisuppcardiff 

Instagram: digisupportcaerdydd neu tagiwch @digitalsupportcardiff

 

Dathlu Pythefnos Gofal Maeth

Mae Cyngor Caerdydd yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth, yn dechrau heddiw, drwy anfon neges glir i ddarpar ofalwyr maeth yn y ddinas - 'Mae eich angen chi o hyd!'

Mae Gofal Maeth Caerdydd yn parhau i recriwtio gofalwyr maeth er gwaethaf yr argyfwng iechyd presennol ac mae'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am faethu ac sy'n meddwl y gall ddefnyddio ei sgiliau, ei wybodaeth a'i arbenigedd i helpu i gyfoethogi a gwella bywydau plant a phobl ifanc Caerdydd. Gall hyn fod naill ai ar gyfer seibiannau byr, gofal seibiant neu ofal hirdymor. 

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ofal maeth ac i ddathlu ymroddiad gofalwyr maeth a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar ein cymunedau lleol. Thema'r ymgyrch eleni, sy'n rhedeg o 11 i 24 Mai, yw 'Dyma yw Maethu'.

Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo'n oren, lliw nodedig Gofal Maeth Caerdydd, o 15 - 24 Mai, i nodi Pythefnos Gofal Maeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cyng. Graham Hinchey: "Rwyf wedi cael y fraint o gyfarfod â nifer o ofalwyr maeth yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf, yn bobl sy'n newydd i'r rôl a'r rhai sydd wedi bod yn maethu ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn bleser llwyr gennyf glywed am eu profiadau ac mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddangos ein diolchgarwch i'r holl ofalwyr maeth hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc. Diolch i bob un ohonoch. Rydych chi'n gwneud gwaith anhygoel."

Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo'n oren ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 15 -24 Mai, ac eithrio dydd Iau Mai 21 pan gaiff ei goleuo'n las unwaith eto i gydnabod a diolch i weithwyr allweddol y ddinas yn ystod argyfwng COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23836.html

 

Tair gwobr i bartneriaeth adeiladu tai y cyngor

Mae datblygiad preswyl newydd yn nwyrain Caerdydd, a adeiladwyd yn rhan o brif raglen adeiladu tai Cyngor Caerdydd, wedi cipio gwobr genedlaethol.

Mae'r datblygiad Cartrefi Caerdydd yn Rhos yr Arian yn Llaneirwg wedi ennill Gwobr Effaith Gymdeithasol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gyfer 2020 - trydedd gwobr genedlaethol Cartrefi Caerdydd yn y 12 mis diwethaf.

Mae Cartrefi Caerdydd yn fenter bartneriaeth rhwng y Cyngor a'r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd, y bydd o leiaf 600 ohonynt yn dai cyngor, ledled y ddinas. Mae'r fenter yn elfen bwysig o strategaeth datblygu tai ehangach y Cyngor sy'n ceisio darparu 2,000 o dai cyngor newydd, y caiff 1,000 ohonynt eu cwblhau erbyn 2022, er mwyn bodloni lefelau uchel o alw am gartrefi fforddiadwy o ansawdd dda.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Cartrefi Caerdydd yn darparu cartrefi newydd o ansawdd dda y mae pobl eisiau byw ynddynt, yn y farchnad werthu breifat a'n heiddo cyngor ein hunain - maen nhw'n gartrefi hyfryd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23815.html