Back
Cyhoeddi’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern Blynyddol

12/05/20

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei ddatganiad caethwasiaeth fodern blynyddol, sy'n nodi ei ymrwymiadau i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ei gadwyni busnes a chyflenwi.

 

Llofnodwyd y datganiad blynyddol gan y Prif Weithredwr, Paul Orders, a Hyrwyddwr Gwrth-Gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol ac Aelod y Cabinet Dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver, ar 1 Mai, sef Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.

 

Mae'r datganiad wedi ei ymgorffori ym Mholisi Diogelu Corfforaethol cyffredinol y Cyngor, sy'n esbonio ei ddyletswydd ac ymrwymiad wrth ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i risg a sicrhau bod arferion effeithiol ar waith ledled y Cyngor a'r gwasanaethau mae'n eu comisiynu. Mae'n amlinellu'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni hyd yn hyn o ran mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a'r ymrwymiadau y mae'n eu gwneud i reoli a lleihau'r risg o gaethwasiaeth neu fasnachu yn ei weithrediadau o ddydd i ddydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Mae Cyngor Caerdydd yn gwario £430m bob blwyddyn gyda thros 8,000 o gyflenwyr sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau i ni ac er bod dros 99% o'n gwariant yn cael ei wneud gyda chwmnïau yn y DU, rydym yn deall bod ein cadwyni cyflenwi ar hyd a lled y byd, a bod perygl y gallai rhannau o'r gadwyn gyflenwi fod ynghlwm wrth gaethwasiaeth fodern.

 

"Rydym yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r risg honno a thrwy weithio gyda'n cyflenwyr a'n partneriaid, gallwn godi ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern i'w hatal rhag digwydd.

 

"Does dim math o berson yn ddioddefwr nodweddiadol o gaethwasiaeth fodern ac mae rhai dioddefwyr nad ydyn nhw hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn cael eu hecsbloetio a bod hawl ganddynt i gael help. Mae'n hanfodol felly, bod ein staff ein hunain yn deall y broblem, yn gwybod sut i sylwi ar achosion ac yn gwybod beth i'w wneud i helpu dioddefwyr camfanteisio. Dyma elfen allweddol arall o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i ddiogelu pobl agored i niwed.

 

"Drwy lofnodi'r datganiad hwn, rydym yn ymrwymo i gadw'r mater hwn yn uchel ar ein hagenda i sicrhau nad oes lle i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl ym musnes a gweithrediadau Cyngor Caerdydd."

 

Cyngor Caerdydd oedd y corff cyhoeddus cyntaf i lofnodi Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn 2017 ac mae'n ymrwymo'n yn llwyr i ddarparu gwelededd i'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern blynyddol a sicrhau tryloywder mewn cadwyni cyflenwi.

 

Mae cynnydd y Cyngor yn hyn o beth yn cynnwys adolygiad parhaus ar gadwyni cyflenwi i nodi meysydd risg uchel a datblygu ei Bolisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol. Mae hyfforddiant caethwasiaeth fodern wedi'i ddatblygu ar gyfer pob aelod o staff drwy fodiwl ar-lein i helpu i godi ymwybyddiaeth, sicrhau bod cyflogeion yn deall y ddyletswydd sydd arnynt i hysbysu os ydynt yn amau achosion a sut i roi gwybod amdanynt.

 

Mae datganiad 2020/21 yn nodi sut y bydd y Cyngor yn parhau i adnabod unrhyw gyflenwyr risg uchel ac yn monitro ar gyfer cam-drin hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ymhellach â chyflenwyr i annog tryloywder yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r Cyngor hefyd wyn edi ymrwymo i rannu'r hyn a ddysgir ac arfer gorau drwy ei wasanaethau i gyd yn ogystal â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

 

I ddarllen y Datganiad Caethwasiaeth Fodern ar gyfer 2020/21, ewch i: http://www.cardiff.gov.uk/CYM/Busnes/Tendrau-Comisiynu-a-Chaffael/social-responsibility/Caethwasiaeth-Modern/Documents/Modern%20Slavery%20Statement%20Apr2020-21-Welsh%20-%20signed.pdf