Back
COVID-19: Clod i ysgolion uwchradd Caerdydd am gyfrannu Cyfarpar Diogelu Personol

  

12/5/2020

Mae ysgolion uwchradd Caerdydd wedi bod yn cefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen ar draws y ddinas trwy ddarparu miloedd o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol (CDP) yn ystod argyfwng COVID-19.

Amcangyfrifir bod dros 10,000 o fygydau wyneb a fisorau eisoes wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio offer a deunyddiau llawer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Choleg Dewi Sant.

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac Ysgol Uwchradd Llanisien wedi darparu asetad ychwanegol ar gyfer gweithgynhyrchu a bydd Ysgol Uwchradd Willows yn derbyn offer yr wythnos hon fel y gallan nhw hefyd ddechrau cynhyrchu CDP gwerthfawr.

Mae sawl ysgol, gan gynnwys Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Llanisien, Corpus Christi a Cathays, hefyd wedi cyfrannu miloedd o eitemau o blith eu stoc o goglau, menig, ffedogau a mygydau gwyddoniaeth, sydd i gyd yn cael eu defnyddio ganysbytai, meddygfeydd, nyrsys ardal, cartrefi gofal, fferyllfeydd a gweithwyr gofal yn y gymunedsydd ar y rheng flaen.

Yn ogystal, mae staff o Adran Dylunio, Technoleg a Thecstilau Ysgol Gymraeg Glantaf wedi gwneud 175 o fagiau i ddal sgrybs ac maent bellach wedi symud ymlaen i gynhyrchu sgrybs yn unol â chanllawiau'r GIG, gyda'r targed o 70 tiwnig yr wythnos.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n anhygoel clywed am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion i gefnogi gweithwyr iechyd rheng flaen yn ystod y pandemig.

"Mae haelioni'r staff, y disgyblion a'u cymunedau ysgol ehangach wrth gyfrannu'r cyfarpar yn eithriadol. Bydd llawer o ysgolion yn gorfod ail-brynu eitemau pan fydd yr ysgolion yn agor eto, felly hoffwn eu canmol am eu caredigrwydd a diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli."

Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays bellach yn cynhyrchu fisorau sy'n addas i'w defnyddio wrth weithio gyda phlant. Cyflwynodd y disgyblion eu syniadau dylunio eu hunain a chafodd dros 100 o'r fisorau newydd eu hanfon i Hosbis Plant Tŷ Hafan yr wythnos hon.

Mae staff hefyd yn trawsnewid duvets diangen i fagiau sgrybs ac mae'r ysgol wedi sefydlu system archebu ar-lein i reoli'r galw.