Back
Parciau Caerdydd yn talu teyrnged i'r GIG ar lawntiau Neuadd y Ddinas
Ymddangosodd y 'GIG' mewn llythrennau saith metr ar y lawntiau y tu allan i Neuadd y Ddinas fel rhan o deyrnged gan dîm parciau Cyngor Caerdydd i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae staff sy'n gweithio yn y GIG yn gwneud gwaith gwych ac roeddem am ddefnyddio ein parciau i ddangos ein diolch a'n gwerthfawrogiad am bopeth maen nhw'n ei wneud i ofalu am bob un ohonom, yn ystod y sefyllfa anodd hon.”

"Efallai mai dim ond tair llythyren sydd yn y deyrnged hon ond dylai pobl wybod fod y rhestr o bobl sydd yn haeddu ein diolch yn llawer, llawer hwy - mae ein gofalwyr cartref, y bobl sy'n dal i fod allan yn casglu biniau, ein tîm gwasanaethau profedigaeth a llawer, llawer mwy mewn gwasanaethau ar draws y Cyngor, yn parhau i ateb yr heriau y mae Covid-19 yn eu gosod.”