Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu y bydd canolfannau ailgylchu Caerdydd yn ailagor i waredu eitemau cyfyngedig yn unig, ond am resymau diogelwch, bydd gofyn i breswylwyr archebu apwyntiad mewn amser penodol gyda Chyngor Caerdydd.
Bydd Canolfan Ailgylchu Clos Bessemer yn ailagor ddydd Mawrth nesaf, 26 Mai, ac yna bydd Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby yn ailagor ddydd Sul, 31 Mai.
Mae system archebu ar-lein wedi'i chreu a bydd rhaid i unrhyw un sydd angen ymweld â chanolfan ailgylchu wneud apwyntiad. Bydd y system archebu ar-lein ar gael i'r cyhoedd ei defnyddio o 12.30pm fory - 22 Mai
Yr unig eitemau y gellir eu cyflwyno i'r canolfannau ailgylchu am y tro yw cardfwrdd, pren, gwastraff gardd, metel sgrap, eitemau trydanol bach a phlastigau caled.
I helpu preswylwyr i waredu eitemau mwy o faint bydd gwasanaeth casglu gwastraff swmpus y Cyngor yn ailddechrau hefyd o ddydd Llun, 1 Mehefin.
Mae cynlluniau manwl wedi eu rhoi ar waith i sicrhau y rheolir ymweliadau'r preswylwyr â'r canolfannau ailgylchu mewn modd diogel gan gydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Bydd y canolfannau ailgylchu ar agor rhwng 8:30am a 4:30pm saith diwrnod yr wythnos. Dim ond ar-lein y gall preswylwyr archebu apwyntiadwww.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchuNi chaniateir mynediad i'r safle i unrhyw berson a ddaw i'r canolfannau heb apwyntiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod nawr yn gallu ailagor y canolfannau ailgylchu a hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd. Fodd bynnag, mae'r rheolau ymbellhau cymdeithasol newydd yn golygu nad yw'n bosib cynnal y gwasanaeth fel yr oeddem yn ei wneud cyn argyfwng COVID-19.
"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein preswylwyr a'n staff yn ddiogel yn y cyfleusterau hynny. Bu'n rhaid ail-ddylunio'r safleoedd fel y gellir cydymffurfio â'r rheolau ymbellhau cymdeithasol a bu'n rhaid i ni gyflwyno system archebu fel y gallwn reoli pobl trwy'r broses wrth gadw pawb yn ddiogel."
Mae'r rheolau newydd a gynlluniwyd i gadw preswylwyr a staff yn ddiogel yn cynnwys y canlynol:
Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Roedd rhaid i ni roi'r systemau hyn ar waith er mwyn rheoli'r safleoedd yn effeithiol. Mae'n bosib iawn y gallai fod mwy o draffig na'r arfer wrth nesáu'r cyfleuster, felly bydd angen i bawb fod yn amyneddgar. Mae'n bwysig nad yw pobl yn cyrraedd yn rhy gynnar, eu bod yn dod dim ond os oes ganddynt apwyntiad, a'u bod yn dod dim ond ag eitemau a dderbynnir yn bresennol yn y cyfleusterau hyn.
"Rwy'n sicr bod llawer ohonom ni wedi gweld y ffordd y mae archfarchnadoedd wedi newid eu ffordd o weithredu i ddarparu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. Mae systemau ciwio wedi eu rhoi ar waith a dyma'n union beth sydd angen i ni ei wneud yma. Rwy'n gofyn i bawb fod yn amyneddgar a pheidio â threfnu apwyntiad oni bai bod gwir angen arnoch. Gofynnwch i chi eich hun a yw hyn yn hanfodol yn y lle cyntaf.
"Mae'n werth cofio bod bagiau ailgylchu gwyrdd yn cael eu casglu'n wythnosol erbyn hyn o ymyl y ffordd a byddwn yn ailddechrau'r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus o 1 Mehefin.