Back
Gwaith yn dechrau yng Nghaerdydd i greu canol dinas diogelach

01/06/20

Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio sut y gall weithio â phartneriaid i greu ‘Caerdydd Ddiogelach' ar gyfer trigolion a gweithwyr sy'n teithio i ganol y ddinas ar ôl codi'r cyfyngiadau presennol.

Mae cynlluniau ar gyfer Stryd y Castell yng nghanol y ddinas a chynllun peilot ar gyfer Wellfield Road, yn y Rhath, eisoes wedi'u cyhoeddi gyda lôn draffig wedi'i chlirio ar Stryd y Castell ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Bellach mae trafodaethau ar waith a allai ailfodelu ffyrdd, troedffyrdd a mannau cyhoeddus ar Heol-y-Frenhines, Heol Eglwys Fair, Yr Aes a Ffordd Churchill yn ogystal ag ardaloedd prysur eraill yng nghanol y ddinas. Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cyflwyno mesurau penodol i helpu busnesau, gan gynnwys rhoi rhywfaint o dir cyhoeddus ar gael i fwytai yng nghanol y ddinas y caiff eu harwynebedd llawr ei gyfyngu gan fesurau ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda Chaerdydd AM BYTH, sy'n cynrychioli busnesau yng nghanol y ddinas, ac Arup sy'n arbenigwr technegol cydnabyddedig ym maes dylunio dinasoedd. Caiff y cynlluniau eu dylunio i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i helpu busnesau i ailagor a chael eu traed oddi tanynt yn ystod y cyfnod adfer.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydyn ni i gyd yn byw mewn cyfnod rhyfedd iawn ac wrth i'r cyngor barhau i ymateb i'r problemau presennol yn ystod y pandemig, mae angen i ni hefyd gynllunio ein hadferiad pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.

"Rhaid i ni nawr edrych ar sut y gallwn ni ailfodelu'r mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas a rhoi cynlluniau effeithiol ar waith i sicrhau y gallwn gynnal y mesurau ymbellhau cymdeithasol er diogelwch pawb. Nid yn unig hynny - mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud y ddinas yn lle da i ymweld ag ef eto, er gwaethaf unrhyw gyfyngiadau y byddai'n rhaid eu gosod.

"Yn amlwg bydd gan lawer o bobl bryderon o hyd pan gaiff y cyfyngiadau eu codi, felly rydym am wneud yn siŵr pan fydd pobl yn meddwl am Gaerdydd eu bod yn meddwl 'ie, rwy'n gwybod ei fod yn lle diogel i ymweld ag ef, yn ddiogel i siopa, yn ddiogel i wneud busnes ac mae'n ddiogel i mi a'm teulu fod yno.'  Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr yn y maes, gan ymgynghori â busnesau a thrigolion sy'n byw yng nghanol y ddinas.  Y dull 'Un Ddinas' hwn fydd yn ein galluogi i Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu Caerdydd. Rwy'n benderfynol na fyddwn yn colli'r cyfleoedd a allai godi o hyn.  Rydym oll eisiau dinas ddiogelach, wyrddach, lanach ac iachach, un a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

"Bydd hyn i gyd yn costio arian a dyna pam y byddwn yn dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar sut y gellir ariannu'r gwaith. Caerdydd yw curiad calon economaidd Cymru.  Ni ellir gadael y ddinas yn brwydro am ei heinioes. Bydd angen i'n cynlluniau gael cefnogaeth lawn os ydym am godi'r ddinas ar ei thraed unwaith eto er lles pawb sy'n byw ac yn gweithio yma ac yn y ddinas-ranbarth."

Bydd Arup yn llunio strategaeth mewn partneriaeth â'r cyngor a busnesau i gefnogi adferiad canol y ddinas o effeithiau economaidd a lles pandemig Covid-19.

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ffyrdd o ddod â phobl yn ôl i'r ddinas a chefnogi'r gwaith o ailagor busnesau yng nghanol y ddinas, wrth alluogi pobl i ymbellhau'n gymdeithasol. Yn y tymor hwy, bydd yn edrych ar gyfleoedd i wella mynediad i fannau agored o ansawdd uchel, rhwydweithiau digidol, ansawdd aer, seilwaith cadarn, a theithio llesol.  Bydd cymdogaethau ardal yn cael eu hystyried hefyd.

Mae'r cysyniad ar gyfer y strategaeth uniongyrchol yn seiliedig ar greu dinas groesawgar a blaenoriaethu mannau i gerddwyr tua chanol.  Bydd pyrth croeso yn cynnig gwybodaeth, cyfeiriadedd ac ardaloedd diheintio. Bydd y mesurau a ddefnyddir yn hyblyg i weddu i anghenion gwahanol fusnesau.

Mae cyfleoedd hirdymor i wella profiad canol y ddinas yn cael eu hystyried er mwyn denu ymwelwyr a sicrhau gwytnwch y ddinas wrth iddi ymadfer ar ôl effeithiau economaidd y pandemig. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â phartneriaid yn y ddinas, trigolion, cynghorwyr lleol a staff ond mae rhai opsiynau yn cynnwys creu dolen o fan cyhoeddus gwyrdd o amgylch y ddinas yn cysylltu mannau cyhoeddus presennol; strydoedd wedi'u haddasu sy'n rhoi blaenoriaeth i gerddwyr a beicwyr, logisteg gyfunol, a gwasanaethu sy'n gysylltiedig â seilwaith digidol a monitro gwell.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol, y Cynghorydd Caro Wild "Mae hyn yn cynnwys gwaith manwl, yn edrych ar sut y gellir rhannu gofod yn ddiogel i alluogi'r gwaith o gynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol ar gyfer modurwyr, beicwyr ac, yn bwysicaf oll, cerddwyr.

"Does dim dwywaith y bydd hon yn her sylweddol, ond rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod cynlluniau ar waith i ailagor canol y ddinas pan fydd yn ddiogel gwneud hynny." Byddwn yn gweithio gyda chynghorwyr lleol i sicrhau bod barn trigolion lleol yn cael ei chlywed drwy gydol y broses. "

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng. Russell Goodway: "Rydym eisoes wedi cychwyn ar drafodaethau gyda busnesau'r ddinas.  Maen nhw'n awyddus i gael eu cynnwys ac maen nhw eisiau gweld Caerdydd yn cael ei hadfer. Dim ond drwy gydweithio mewn partneriaeth y bydd yr heriau a wynebwn wrth ailgychwyn ac adnewyddu economi'r ddinas yn cael eu goresgyn.  Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflwyno strategaeth a fydd yn siapio'r ffordd yr ydym yn meddwl am ddinasoedd yn y cyfnod yn dilyn COVID.  Allwn ni ddim caniatáu i ganol dinasoedd fod yn llefydd y mae pobl yn ofni ymweld â nhw. Mae hwn yn waith hanfodol bwysig a allai weld Caerdydd yn arwain yr agenda yn genedlaethol ar sut mae'r ganolfan drefol yn adfer yn dilyn y pandemig. "

Dywedodd Sophie Camburn, Cyfarwyddwr Cynllunio Dinesig Integredig ar gyfer Arup: "Mae ein tîm wedi dod ag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd i lunio strategaeth a fydd yn helpu'r Cyngor i ymateb i heriau a chyfleoedd wrth iddynt baratoi ar gyfer dechrau'r broses raddol o ailagor canol y ddinas.

"Rydym wedi edrych ar sut y gall Dinas Caerdydd ddefnyddio ei balchder dinesig, ei gallu creadigol a'i hasedau sylfaenol i ymateb i anghenion ymarferol uniongyrchol, newidiadau tactegol tymor canolig a chyfleoedd strategol i wneud lle gwell yn y tymor hir." 

Caiff adroddiad cychwynnol ar y strategaeth ei gyflwyno gerbron Cabinet Cyngor Caerdydd ar 11 Mehefin, 2020.