Back
Every Little Helps yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed


 

3/6/20
Mae 200 o ffonau symudol wedi'u rhoi i wasanaeth digartref Cyngor Caerdydd i gefnogi unigolion sy'n agored i niwed wrth iddynt symud oddi ar y strydoedd.

 

Mae Tesco Mobile wedi darparu'r dyfeisiau, y mae credyd wedi'i roi ar bob un ohonynt, fel y gall unigolion mewn llety brys gadw mewn cysylltiad â'u gweithwyr cymorth.

 

Mae'r argyfwng iechyd presennol wedi cynnig cyfle unigryw i wasanaethau ymgysylltu'n well ag unigolion digartref yn y ddinas.

 

Mae mwy na 140 o bobl yn aros yn y llety brys ychwanegol y daethpwyd o hyd iddo gan y Cyngor er mwyn diogelu'r rheiny oedd yn cysgu ar y stryd yn ystod argyfwng COVID-19 ac mae llawer mwy o gleientiaid nag erioed yn fodlon derbyn help, yn benodol cymorth o ran camddefnyddio sylweddau. 

 

Mae rhoi ffonau symudol i gleientiaid yn galluogi'r tîm allgymorth Amlddisgyblaethol i gysylltu'n well ag unigolion, gan roi sicrwydd iddynt yn ystod y cyfnod pryderus hwn a'u hatgoffa am apwyntiadau meddygol ac apwyntiadau eraill gyda gwasanaethau.

 

Hefyd gall cleientiaid gael eu cwnsela gan gwnselwyr y Tîm Amlddisgyblaethol dros y ffôn neu ar sgwrs fideo, sydd hefyd yn helpu gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r sefyllfa bresennol wedi'n galluogi i wneud cynnydd mawr gyda'n cleientiaid sy'n ddigartref.  Dim ond llond llaw o bobl sy'n dal i gysgu ar y stryd yn y ddinas ac mae mwy o bobl yn dwyn ar y cyfle i stopio defnyddio heroin a dechrau rhaglenni triniaeth a all eu helpu i wneud y gwaith sydd ei angen i ailadeiladu eu bywydau.

 

"Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y llwyddiant hwn a pheidio â gweld pobl yn cael eu denu'n ôl i ffordd niweidiol o fyw wrth gysgu ar y stryd, gan gardota er mwyn ariannu arfer camddefnyddio sylweddau.

 

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Tesco Mobile am eu cyfraniad hael iawn a fydd yn helpu ein timau i aros mewn cysylltiad â chleientiaid yn haws.

 

"Gall aelodau'r Tîm Amlddisgyblaethol wirio lles cleientiaid yn fwy rheolaidd a rhoi iddynt y cymorth sydd ei angen arnynt ar y daith hon. Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n stopio defnyddio cyffuriau'n golygu bod mwy o faterion seicolegol yn dod i'r amlwg ac mae angen therapi a chwnsela ar gleientiaid ar frys.

 

"Mae cwnselwyr y Tîm Amlddisgyblaethol bellach yn gweithio gyda llawer mwy o gleientiaid nag erioed wrth i unigolion geisio mynd i'r afael â materion gwaelodol eu digartrefedd. Mae cael ffôn symudol, a chredyd i'w ddefnyddio, yn fantais enfawr ac mae'r gallu i gwnsela ar fideo o gymorth mawr wrth gadw staff a chleientiaid yn ddiogel ar hyn o bryd.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y ffonau hyn yn helpu cleientiaid i deimlo wedi'u cysylltu ac yn dawel eu meddwl nad ydynt ar eu pen eu hunain wrth i ni geisio eu cefnogi i ddod oddi ar y strydoedd am byth."

 

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco Mobile: "Trwy gydol y cyfnod heriol hwn, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar helpu'r genedl i gadw mewn cysylltiad. Rydym yn gwybod bod ffonau symudol yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi pobl i gynnig cymorth a derbyn cymorth, felly rydym yn hapus ein bod wedi gallu rhoi 200 o ffonau symudol i wasanaeth digartref Cyngor Caerdydd.