Back
Cynllunio Ailddechrau ym maes Addysg

 


4/6/2020

 

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe (3 Mehefin, 2020) y bydd ysgolion yn ailagor o ddydd Llun 29 Mehefin, mae'r Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynllunio gofalus i lunio cyfres o fesurau sydd â'r nod o ymateb i'r heriau a'r materion sy'n ymwneud ag ysgoliona darparwyr addysg eraill, yn symud allan o'r cyfnod cloi.

Mae adroddiad Cynllunio Ailgychwyn Caerdydd yn manylu ar sut gallai ysgolion weithredu yn dilyn y cyfnod cloi gan nodi cyfres o weithdrefnau a fydd â'r nod o gefnogi ysgolion, yn benodol i allu sicrhau diogelwch staff, disgyblion a rhieni a lleihau lledaeniad y feirws drwy weithredu mewn amgylchedd ymbellhau cymdeithasol.

Yn amodol ar ganllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru a gaiff eu cyhoeddi i ysgolion yr wythnos nesaf, a law yn llaw â thystiolaeth wyddonol ac ymgynghoriad â phartneriaid allweddol, bydd mesurau'r Cyngor yn cynnwys:

        Gweithdrefnau iechyd a diogelwch newydd a fydd yn cynnwys asesiadau capasiti gofod ac asesiadau risg i nodi cyfaint, gosodiad celfi yn briodol, symud y llif a mannau allanol.

 

       Hylendid a glanhau i bennu trefn golchi dwylo, glanhau pwyntiau cyswllt a glanhau mannau ysgol yn drylwyr.

 

        Asesiadau capasiti gweithlu i sicrhau staffio priodol a pharatoi a chefnogi staff - i nodi ac ymateb i anghenion staff gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch rhithiwr.

 

       Nodi cyfarpar ac adnoddau ychwanegol megis cyfarpar diogelu personol a phryd y bydd yn ofynnol ar sail cyngor clir yn seiliedig ar wybodaeth.

 

        Cymorth ychwanegol i ddisgyblion a staff ysgol ynghylch iechyd a lles, er enghraifft problemau perthnasol i drawma yn y teulu yn ogystal â materion yn ymwneud ag ynysu.

 

       Estyn palmentydd a llwybrau ar rai safleoedd ysgol i hwyluso ymbellhau cymdeithasol ac atal yr angen i ddefnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed gamu ar y ffordd.

 

       Cyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd o gwmpas ysgolion lle bo'n bosib ac ystyried cau ffyrdd dros dro yn ystod adegau gollwng a chodi plant.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd llawer o blant ledled y ddinas yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu hathrawon a'r drefn y mae'r ysgol yn ei chynnig. Rwy'n gwybod hefyd bod llawer o deuluoedd yn cael trafferthion yn gweithio o gartref ac yn addysgu gartref, bydd rhai rhieni a staff yn pryderu am blant yn dychwelyd i'r ysgol a byddwn ni'n gweithio i ddatrys hynny.

 

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe yn cynnig cyfle a reolir yn ofalus i blant a phobl ifanc ddychwelyd i'w hysgolion, wrth iddyn nhw alw heibio, dal i fyny a pharatoi at fis Medi. Nid yw hyn yn golygu y bydd pob disgybl yn dod yn ôl ar 29 Mehefin. Bydd angen cael llawer llai o ddisgyblion yn yr ysgol ar unrhyw adeg, sy'n golygu y bydd mwyafrif y disgyblion am ran helaeth o'r wythnos yn parhau i fod gartref.

 

"Ar yr un pryd rwy'n croesawu'r newyddion na chaiff rhieni eu cosbi os nad ydynt yn dymuno i'w plant ddychwelyd ar yr adeg hon a bod y Gweinidog yn glir nad oes disgwyl i blant ac athrawon sy'n hunan-warchod, neu'n byw'n agos at y rheiny sy'n hunan-warchod, ddychwelyd i'r ysgol ar hyn o bryd."

"Mae'r cynigion yn golygu y bydd cyfle i bob disgybl dreulio rhywfaint o amser yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf, i weld ei athrawon eto a gweld dros ei hun pa mor wahanol fydd ei brofiad ysgol gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith a system ofalus o lanhau a chyfyngu cyswllt.

 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni barhau gyda'r paratoadau ar gyfer hyn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi wythnos nesaf. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion, gan sicrhau iechyd a lles ein staff, ein disgyblion a'u teuluoedd, gyda phwyslais ar fagu hyder a lleihau gorbryder."