Back
COVID-19: Project Pontio Rhithwir ar gyfer ysgolion ar waith

11/6/2020 

Mae Project Pontio Rhithwir sy'n helpu plant sy'n gadael yr ysgol gynradd i baratoi ar gyfer dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi, ar waith yng Nghaerdydd.

Mae'r cynllun, a ddatblygwyd gan Addewid Caerdydd mewn partneriaeth â Thîm E-ddysgu'r Cyngor, yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 6 ddysgu am eu hysgol uwchradd newydd, y byddan nhw'n symud iddi ar ôl gwyliau'r haf.

Mae'r project yn eu galluogi i ddefnyddio tudalen we ddiogel a google classroom ac yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd gan yr ysgol uwchradd i annog disgyblion a staff i gyfathrebu a dod i adnabod ei gilydd yn well. Mae'r project hefyd yn galluogi disgyblion newydd i ddysgu mwy am yr ysgol gan gynnwys gwybodaeth am y staff, mapiau o'r ysgol, gwisg yr ysgol, disgwyliadau, yn ogystal â'u galluogi i bostio unrhyw gwestiwn a allai fod ganddynt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn bwysig dros ben i blant ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddod i adnabod eu hysgol newydd yn ogystal â meithrin perthnasoedd, magu hyder a theimlo'n ddiogel.

"Gyda'r ysgolion ar gau ar hyn o bryd, nid yw'r sesiynau pontio arferol wedi bod ar gael i  blant  ac mae'n bosib y byddan nhw'n poeni neu'n gorbryderu am eu hysgol newydd.   Mae'r cynllun hwn yn helpu i liniaru'r teimladau hynny, gan roi'r cyfle i ddisgyblion feithrin sgiliau sy'n arwain at ganlyniadau gwell yn yr ysgol uwchradd."

 

Cafodd y Project Pontio Rhithwir ei beilota yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Uwchradd Cathays. Mae pum ysgol arall bellach yn cymryd rhan yn y project gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Cristi, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Dywedodd yr Arweinydd Pontio er Budd Iechyd a Lles yn Ysgol Uwchradd Cathays, Cari Merriott, "Mae'n wych bod Ysgol Uwchradd Cathays yn rhan o'r project hwn, er mwyn sicrhau bod disgyblion Blwyddyn 6 yn gallu pontio'n rhwydd yn ystod y cyfnod anodd sydd ohoni.

"Mae'n ein galluogi i barhau i weithio mewn partneriaeth fel y gwnaethom drwy gydol Blwyddyn 6. Rydym yn awyddus i'n disgyblion newydd deimlo'n hapus a llawn cyffro o fod yn ymuno ag ysgol uwchradd ac mae'r project hwn yn bendant yn eu cynorthwyo i wneud hynny."