Back
Diweddariad COVID-19: 12 Mehefin

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan GyngorCaerdydd,sy'n cynnwys:sut i osgoi problemau gyda gwylanod a phlâu; y tîm cynhwysiant blynyddoedd cynnar yn annog pobl i 'alw mewn' i'w grŵp un drwy'r cyfryngau cymdeithasol; clod i'n timau wrth i'r Canolfannau Ailgylchu ailagor; Arweinwyr Digidol y DU - pleidleisiwch Katy.

 

Sut i osgoi problemau gyda gwylanod a phlâu

Mae gan Gaerdydd boblogaeth naturiol o wylanod sy'n cael eu denu gan ffynonellau bwyd. Er mwyn helpu i osgoi'r problemau hyn, dilynwch eich cyngor gyda'ch gwastraff bwyd:

 

  1. Rhowch unrhyw fwyd gwastraff (boed wedi'i goginio a'i beidio) yn y cadi cegin
  2. Cadwch y tu allan i'r cadi cegin yn lân ac yn rhydd o unrhyw ddiferion
  3. Defnyddiwch fagiau bin am ddim y cyngor - cliciwch ar y ddolen hon i archebu rhagor:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx

  1. Cadwch y caead ar gau
  2. Clymwch y bag a'i roi yn y cadi ymyl y ffordd
  3. Os oes gennych ormod o fwyd gallwch ofyn am gadi ymyl y ffordd arall drwy archebu yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx

  1. Rhowch rif neu enw'ch tŷ ar y cadi fel y gallwch nodi'ch un chi ar ôl i'r gwastraff bwyd gael ei gasglu
  2. Rinsiwch eitemau fel poteli, tiniau, jariau a bocsys bwyd cyn eu rhoi yn y bagiau ailgylchu gwyrdd
  3. Ewch a'ch bagiau ailgylchu gwyrdd a'ch cadi ymyl y ffordd ar gyfer bwyd gwastraff allan i'w gasglu bob wythnos
  4. Defnyddiwch cadis bwyd a bagiau ailgylchu gwyrdd Cyngor Caerdydd yn unig er mwyn sicrhau y caiff eich gwastraff ei gasglu
  5. Gwiriwch yn rheolaidd y tu allan i'ch eiddo er mwyn sicrhau bod unrhyw fentiau neu bibelli draen yn cael eu trwsio. Mae anifeiliaid fel llygod mawr yn cael eu denu i gartrefi os oes yna le diogel a chynnes iddyn nhw nythu

 

Mae'r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd a dyluniad y cadi wedi cael eu datblygu'n arbennig i stopio plâu rhag ymosod ar ffynonellau bwyd. Mae'r dyddiadau casglu yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

Lawrlwythwch Ap Caerdydd Gov i'ch atgoffa o'r dyddiadau casglu:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx

 

Y Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar yn annog pobl i 'alw mewn' i'w Grŵp Un drwy'r cyfryngau cymdeithasol

O dan amgylchiadau arferol, byddai'r Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar yn hapus i gyfarfod â rhieni/gofalwyr a'u plant yn ein 'Grŵp Un' wythnosol (grwpiau cymorth i rieni plant 0-5 oed a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol).

Yn ystod yr amser rhyfedd hwn, er nad ydyn nhw'n gallu cwrdd wyneb yn wyneb, mae'r tîm yn dal i gadw mewn cysylltiad a rhoi cymaint o gymorth ag y gallan nhw dros y ffôn, e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol, gan ymateb i ymholiadau fel arfer.

Mae Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar yn rhannu gwybodaeth drwy eu tudalennau Facebook a Twitter gan gynnwys diweddariadau, adnoddau iechyd, gweithgareddau hwyl a chaneuon Makaton ac yn gyffredinol yn ceisio sicrhau bod pawb mewn hwyliau da ac yn cael gwybodaeth.

Felly, er nad yw'n bosibl i rieni 'alw mewn' i Grŵp Un ar hyn o bryd, mae'r tîm yn gwahodd pobl i gadw mewn cysylltiad â nhw drwy'r cyfryngau cymdeithasol:

Facebook:https://www.facebook.com/Grwp1Group/
Twitter:https://twitter.com/grwp1group

 

Clod i'n timau wrth i'r Canolfannau Ailgylchu ailagor

cid:image001.jpg@01D64007.1D3B69B0

Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn Ffordd Lamby a Bessemer Close wedi ail agor ers rhyw bythefnos, gyda chyfyngiadau er mwyn i breswylwyr a chydweithwyr allu cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol i helpu i atal lledaenu'r Coronafeirws.

Rydym wedi derbyn llawer o negeseuon o ddiolch i'n timau gweithgar ar y safle, sy'n sicrhau bod y newidiadau newydd yn cael eu gweithredu mor syml â phosibl:

 

  • Newydd fod yn y tip sbwriel. Dyna'r cyffro mwyaf ges i ers bron i 80 diwrnod bellachcid:image003.png@01D64007.D57AC570  Pob clod i @cyngorcaerdydd, mae canolfan Ffordd Lamby wedi ei threfnu'n dda!
  • @cyngorcaerdydd Yn fy mhrofiad i, mae'n gweithio'n dda iawn ac roedd y tîm yn gymwynasgar iawn. 
  • @cyngorcaerdydd Mae'n gweithio'n dda iawn a dylai hyn barhau yn fy marn i.
  • @cyngorcaerdydd Trefniant gwych a staff cwrtais a chymwynasgar. Daliwch ati gyda'r gwaith da, a chadwch yn ddiogel.
  • @cyngorcaerdydd A diolch mawr i'r staff. Mae fy ngŵr yn eu canmol nhw i'r cymylau.

 

Diolch i'n holl gydweithwyr sy'n gweithio yn ein canolfannau ailgylchu yn y cyfnod hwn.

Mae system bwcio ar-lein wedi ei chreu a bydd yn rhaid i unrhyw un sydd eisiau ymweld â chanolfan ailgylchu wneud apwyntiad. Gallwch drefnu dod i ganolfan ailgylchu yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau-gwastraff/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx

 

Arweinwyr Digidol y DU -Pleidleisiwch Katy

Pleidleisiwch dros ein hathrylith ddigidol Katie i fod yn un o Arweinwyr Digidol y DU.

Mae Katie Rappell, swyddog digidol gyda Thîm Addysg Oedolion Caerdydd, wedi cyrraedd rhestr fer y 100 hyrwyddwr digidol gorau yng nghynllun Arweinwyr Digidol eleni.

Mae'r rhaglen genedlaethol yn hyrwyddo trawsnewid digidol effeithiol a hirdymor trwy'r llywodraeth, byd diwydiant ac elusennau. Mae Katie wedi cael ei chydnabod yng nghategori Arweinwyr Digidol Ifainc.

Gallwch bleidleisio dros Katie a chael gwybod am ei gwaith yma:

https://digileaders100.com/young-digital-leader?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=SocialSignIn&utm_content=COMMUNITIES%2C+HOUSING+%26+CUSTOMER+SERVICES

I gysylltu â'n Tîm Cymorth Digidol a all helpu gydag amrywiaeth o faterion megis defnyddio'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, bancio ar-lein, creu cyfeiriad e-bost, siopa ar-lein, talu biliau a mwy, defnyddiwch y ffurflen yn:

https://form.jotform.com/201123417217038?utm_source=Facebook&utm_medium=social&utm_campaign=SocialSignIn&utm_content=COMMUNITIES%2C+HOUSING+%26+CUSTOMER+SERVICES

Neu cysylltwch ar Twitter neu Facebook@digisuppcardiff