Back
Canllawiau wedi'u cyhoeddi i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant

10/06/20 

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion er mwyn iddynt allu cynllunio i ddisgyblion ddychwelyd ar 29 Mehefin i "ailgydio, dal i fyny, paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi".

Mae'r canllawiau, sef 'Diogelu Addysg', yn rhoi cyngor ymarferol ac ar ddysgu ac addysgu er mwyn paratoi ysgolion ar gyfer dychwelyd yn raddol cyn diwedd tymor yr haf, gan gefnogi lleoliadau i gynyddu eu gweithrediadau'n ddiogel.

Bydd pob ysgol yn agor yn raddol. Bydd pob grŵp oedran yn cael eu rhannu'n grwpiau bach gydag amseroedd dechrau ac egwyl gwahanol. Bydd hyn yn golygu mai traean o'r disgyblion, ar y mwyaf, fydd bresennol ar y tro.

Mae'r canllawiau ar gyfer ysgolion wedi'u rhannu'n ddwy ran: ceir adran ar faterion gweithredol ac adran ar brofiadau dysgu. Ategir y canllawiau gan dudalen Cwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin wrth iddynt godi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi canllawiau i leoliadau gofal plant heddiw, er mwyn helpu'r sector i agor yn ehangach a sicrhau bod darparwyr yn gallu gweithio'n ddiogel.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws

Mae'r Cyngor yn ymgymryd â gwaith cynllunio gofalus i lunio cyfres o fesurau sydd â'r nod o ymateb i'r heriau a'r materion sy'n ymwneud ag ysgolion a darparwyr addysg eraill, yn symud allan o'r cyfnod cloi.

Mae adroddiad Cynllunio Ailgychwyn Caerdydd yn manylu ar sut gallai ysgolion weithredu yn dilyn y cyfnod cloi gan nodi cyfres o weithdrefnau a fydd â'r nod o gefnogi ysgolion, yn benodol i allu sicrhau diogelwch staff, disgyblion a rhieni a lleihau lledaeniad y feirws drwy weithredu mewn amgylchedd ymbellhau cymdeithasol.

Bydd mesurau'r Cyngor yn cynnwys:

  • Gweithdrefnau iechyd a diogelwch newydd a fydd yn cynnwys asesiadau capasiti gofod ac asesiadau risg i nodi cyfaint, gosodiad celfi yn briodol, symud y llif a mannau allanol
  • Hylendid a glanhau i bennu trefn golchi dwylo, glanhau pwyntiau cyswllt a glanhau mannau ysgol yn drylwyr
  • Asesiadau capasiti gweithlu i sicrhau staffio priodol a pharatoi a chefnogi staff - i nodi ac ymateb i anghenion staff gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch rhithiwr
  • Nodi cyfarpar ac adnoddau ychwanegol megis cyfarpar diogelu personol a phryd y bydd yn ofynnol ar sail cyngor clir yn seiliedig ar wybodaeth
  • Cymorth ychwanegol i ddisgyblion a staff ysgol ynghylch iechyd a lles, er enghraifft problemau perthnasol i drawma yn y teulu yn ogystal â materion yn ymwneud ag ynysu
  • Estyn palmentydd a llwybrau ar rai safleoedd ysgol i hwyluso ymbellhau cymdeithasol ac atal yr angen i ddefnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed gamu ar y ffordd
  • Cyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd o gwmpas ysgolion lle bo'n bosib ac ystyried cau ffyrdd dros dro yn ystod adegau gollwng a chodi plant

Bydd diweddariadau rheolaidd yn rhoi manylion llawn ar drefniadau ysgolion wrth i ddyddiad agor 29 Mehefin agosáu.