Back
Diweddariad COVID-19: 22 Mehefin

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: ‘Newid Go Iawn' - mae ymgyrch newydd wedi'i lansio yn y ddinas heddiw i adeiladu ar y llwyddiant diweddar o ran helpu pobl sy'n agored i niwed i adael y strydoedd; cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor;5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn; a rhieni Caerdydd yn elwa o gymorth cadarnhaol gan Parents First.

 

Amser am Newid Go Iawn

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio yn y ddinas heddiw i adeiladu ar y llwyddiant diweddar o ran helpu pobl sy'n agored i niwed i adael y strydoedd.

Mae ymgyrch Real Change yn ceisio parhau â'r gwaith a gyflawnwyd gan wasanaethau digartrefedd yn ystod cyfnod y cloi  pan welwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd i ffigurau sengl, a mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn dechrau manteisio ar wasanaethau sy'n newid bywydau yn y ddinas.

Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn benderfynol o beidio â cholli'r momentwm cadarnhaol a gyflawnwyd wrth helpu pobl i droi cefn ar y strydoedd, wrth i ganol y ddinas ddechrau dod yn fyw. Mae pob partner yn annog y cyhoedd i helpu i sicrhau newid go iawn a pharhaol i'r bobl sy'n agored i niwed a welant ar y stryd.

Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl beidio â rhoi eu newid sbâr i'r rhai sy'n cardota, ond yn hytrach cyfeirio pobl sy'n agored i niwed at y gwasanaethau a all weddnewid eu bywydau.

Anogir unrhyw un sy'n pryderu am unigolyn y dônt ar ei draws ar y strydoedd i alw am gymorth drwy decstio ' REALCHANGE ' i 80800, gan nodi lleoliad y person hwnnw. Yna, bydd tîm allgymorth digartref y ddinas yn cael ei anfon i weld yr unigolyn dan sylw i'w annog i adael y strydoedd.

Cafwyd llwyddiant sylweddol o ran cartrefu pobl ddigartref yn ystod y tri mis diwethaf, a dim ond llond dwrn o bobl sy'n parhau i gysgu ar y strydoedd.  Mae llawer o lety o safon wedi'i sicrhau, gan gynnwys llety mewn dau westy mawr, ac mae gwasanaethau iechyd a chymorth wedi'u cynnig i helpu'r cleientiaid hyn sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'u hanghenion sylfaenol.

Roedd gwaith da eisoes yn mynd rhagddo i leihau'r nifer sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas diolch i waith y Tîm Allgymorth Digartrefedd Amlddisgyblaethol penigamp, ond ers cyfnod y cloi, mae mwy o gleientiaid sy'n agored i niwed nag erioed yn ymgysylltu â gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau disodli cyffuriau a therapiwtig.

Mae mwy o lety a chymorth ar gael wedi bod yn ffactor allweddol yn y newid hwn ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth ychwanegol hon yn parhau ar ôl i'r argyfwng ddod i ben.  Fodd bynnag, newid allweddol arall fu diffyg cyfleoedd i gardota yn ystod cyfnod y cloi a llai o anogaeth i ymweld â chanol y ddinas.

Mae Real Change yn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd i helpu pobl ar y llwybr i ffwrdd o fywyd ar y strydoedd a'r llwyddiant sydd wedi'i gyflawni'n ddiweddar o ran gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Nod yr ymgyrch yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r ffordd orau o helpu gyda'r gwaith hwn a sut y gall unigolion, heb yr ymyriadau priodol, barhau i fyw yn yr awyr agored, yn gaeth i ffordd niweidiol o fyw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ers i fesurau cyfnod y cloi  ddod i rym, rydym wedi helpu 473 o unigolion i gael yn ein hosteli a'n llety ychwanegol mewn gwestai. Mae 71 o bobl wedi cael eu cyfeirio at raglenni adsefydlu cyffuriau sy'n newid bywydau, gyda llawer ohonynt yn symud i gael triniaeth ymhen ychydig ddyddiau i'w hymgynghoriad cychwynnol. Dyna 71 o bobl a fyddai'n fwy na thebyg yn dal i gael trafferthion gyda'u dibyniaeth ar gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd heb ein hymyriadau - mae 71 o bobl yn profi newid go iawn yn eu bywydau ar hyn o bryd. Dim ond pump o'r rheiny sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd ers tro byd sydd dal yno ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw.

"Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau'r gwelliant hwn - does dim troi yn ôl nawr!"

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24149.html

 

Cyrtiau chwaraeon a hamdden awyr agored Cyngor Caerdydd i ail-agor

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o heddiw (Dydd Llun 22 Mehefin), y bydd yr holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae plant a champfeydd awyr agored, yn cael agor.

O ganlyniad, mae holl gyrtiau tennis, pêl-fasged ac AGADd (Ardal Gemau Aml-ddefnydd) Cyngor Caerdydd yn y broses o gael eu hagor.

Mae archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac arwyddion newydd yn cael eu cod i atgoffa aelodau'r cyhoedd o'r angen i gadw'r pellter cymdeithasol angenrheidiol o dan delerau cyfyngiadau cyfnod y clo  Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y rheoliadau Coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma: 

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

 

5 awgrym da ar gyfer rheoli plâu'r haf hwn

Rydym yn gweld cynnydd mewn galwadau ac ymholiadau ar-lein yn ymwneud â sut i ddelio gyda phlâu a heigiadau.

Yn benodol, ymddengys fod cynnydd yn nifer y llygod mawr ar hyn o bryd, yn gysylltiedig o bosibl â rhagor o bobl yn aros gartref, yn ogystal â diffyg eu ffynonellau bwyd arferol.  Mae cynnydd mewn bwydo adar hefyd yn cyfrif am fwyafrif ein galwadau.

Dyma ein 5 Awgrym Da i osgoi plâu yn ystod misoedd yr haf:

 

  1. Mae mwy ohonom ni wedi dechrau defnyddio'r ardd oherwydd y cyfnod cloi sydd wedi arwain at fwy o bobl yn bwydo adar. Er ei bod yn wych bwydo'r adar yn yr ardd, yn arbennig ar hyn o bryd, mae'n bwysig eich bod yn cadw llygad am lygod mawr, fel y byddant yn fuan iawn, fel yr adar, yn dysgu bod bwyd ar gael yn gyson. Ni ddylech roi bwyd uniongyrchol ar y tir dan unrhyw amgylchiadau.
  2. Os oes gennych anifeiliaid anwes y tu allan, megis cwningod a moch cwta, neu eich bod yn cadw ieir, cofiwch fod eu bwyd hefyd yn denu llygod mawr.
  3. Os ydych yn cadw hadau adar neu fwyd anifeiliaid anwes mewn sied, gwnewch yn siŵr eu bod mewn cynhwysydd wedi'i selio a chaled, bydd y llygod mawr fel arall yn ei gnoi.
  4. Mae sied yr ardd a deciau gardd yn lle gwych i'r llygod mawr guddio a nythu o danynt, cadwch lygad am dyllau neu lwybrau yn ymddangos yn yr ardaloedd hyn.
  5. Os yw plâu yn rhwygo eich bagiau ailgylchu yn agored, golchwch y pecynnu bwyd fel poteli, tuniau, jariau a hambyrddau bwyd yn drylwyr, cyn eu rhoi yn y bagiau i'w casglu.

 

Os ydych chi'n dechrau sylwi ar weithgarwch llygod mawr o fewn ffiniau eich eiddo, mae gennych gyfrifoldeb i weithredu gan y bydd yn gwaethygu os byddwch yn ei adael heb ei drin.

Gallwch drin y broblem eich hun neu ddefnyddio sefydliad proffesiynol fel Adran Rheoli Plâu Cyngor Caerdydd sy'n gallu cynnig cyngor neu ddarparu gwasanaeth trin cost isel. Gellir cysylltu â nhw ar 02920872934 neurheoliplau@caerdydd.gov.uk.

Nid yw Rheoli Plâu yn swyddogaeth statudol, ond rydym yn cynnig gwasanaeth â chymhorthdal sylweddol o £55 am 4 ymweliad.

Mae rhagor o gyngor ar gael yma:

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Pests-pollution-and-food-hygiene/Pests-and-infestation/Pages/Pests-and-infestation.aspx

Os ydych yn denant i'r Cyngor gallwch wneud cais am archeb drwy Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088 (Opsiwn 2). Os ydych yn Denant i Gymdeithas Dai, dylech gysylltu â'ch Cymdeithas Dai oherwydd efallai y bydd ganddynt drefniadau ar waith i ddelio ag unrhyw broblemau cnofilod.

 

Rhieni Caerdydd yn elwa o gymorth cadarnhaol gan Parents First

Rhieni'n Gyntaf yw'r gwasanaeth 1:1 dan arweiniad seicolegol sy'n cael ei deilwra i rieni plant o 0-18 oed ar draws Caerdydd.

Mae'r tim wedi parhau i gynnig gwasanaeth i rieni yn dilyn y cyfyngiadau trwy addasu'r dull o ddraparu gwasanaeth gan gynnig galwadau ffon a fidio. Mae rhieni wedi ymateb yn dda gyda'r dull yma ac mae nifer wedi manteisio o'r gefnogaeth cadarnhaol gan y tim.

Mae'r tim wedi dangos gwydnwch a phositifrwydd drwy gydol y cyfnod. Yn ogystal a'r gwaith rhianta seicolegol, maent wedi cydweithio gydag asiantaethau eraill i gynnig cyngor ymarferol i deluoedd wrth ymateb i'r cyfnod cyfyngedig yma.

I gael rhagor o wybodaeth am Parents First ewch i:https://www.cardifffamilies.co.uk/cardiff-parenting

Neu cysylltwch â'r Porth i Deuluoedd Caerdydd ar 03000 133 133