Back
Sut i ddefnyddio ein Canolfannau Ailgylchu yn ystod pandemig y coronafeirws

25.06.2020

Edrychwch ar ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cyn, yn ystod ac ar ôl eich ymweliad â'n Canolfannau Ailgylchu:

Cyn Eich Ymweliad

  • Dim ond os na allwch storio eich gwastraff yn ddiogel gartref y dylech fynd ag ef i Ganolfan Ailgylchu.
  • Peidiwch â dod i'r Canolfannau Ailgylchu os ydych chi yn y categori agored i niwed, os ydych yn gwarchod eich hun, os ydych yn hunan-ynysu neu os oes gennych unrhyw symptomau o'r coronafeirws.
  • Rhaid i chi drefnu ymweliad ar-lein cyn dod. Trefnwch slotyma.
  • Peidiwch â dod ag unrhyw eitemau cyfyngedig i'r Ganolfan Ailgylchu. Nid ydym yn derbyn bagiau cymysg o wastraff (bagiau du) na bagiau ailgylchu gwyrdd ond erbyn hyn gallwn dderbyn eitemau mwy o faint, gan gynnwys setiau teledu a chyfrifiaduron/sgriniau.
  • Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gweler ein tudalenAilgylchu A-Y
  • Rydym ni bellach yn derbyn trefniadau ar gyfer faniau yn y Canolfannau Ailgylchu. Bydd faniau'n gallu dod i'r Canolfannau Ailgylchu o ddydd Llun 29 Mehefin. Bydd gan faniau 20 munud yn y ganolfan, wedi'u cyfyngu i 1 ymweliad y mis, felly dim mwy na 12 ymweliad y flwyddyn. Os oes gennych fan a char, bydd pob ymweliad yn cyfrif tuag at y 12.
  • Trefnwch eich eitemau wrth eu pacio er mwyn arbed amser i chi yn y Ganolfan Ailgylchu.
  • Dim ond eitemau y gallwch eu codi i'r sgipiau ar eich pen eich hun y dylech chi eu pacio.Ni fydd ein staff yn gallu eich cynorthwyo i ddadlwytho.
  • Dewch â'ch e-bost cadarnhau trefnu slot a phrawf o breswyliaeth yng Nghaerdydd i'w dangos i'r staff. 
  • Defnyddiwch app traffig amser cyfredol i weld pa mor brysur yw'r ffyrdd ger y Canolfannau Ailgylchu cyn i chi adael ar gyfer y slot amser a neilltuwyd i chi.

Yn Ystod Eich Ymweliad

  • Peidiwch â chyrraedd y safle tan 5 munud cyn eich slot amser.
  • Caniateir dim mwy na 10 munud i bob cerbyd ar gyfer dadlwytho ar y safle.
  • Dylech chi ddisgwyl amserau aros hirach na'r arfer.
  • Darllenwch yr holl arwyddion i'ch helpu i ddefnyddio'r safle'n ddiogel a chadw at  y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
  • Byddwch yn amyneddgar ac yn barchus tuag at staff ar y safle a dilynwch eu cyfarwyddiadau - nid nhw sy'n gyfrifol am unrhyw oedi.
  • Cewch le penodol i barcio wrth gyrraedd. Os nad oes aelod staff ar gael, dilynwch yr arwyddion rheoli traffig i barcio eich cerbyd.
  • Gwisgwch fenig amddiffynnol a defnyddiwch ddiheintydd dwylo cyn ac ar ôl i chi ollwng eich eitemau. Bydd diheintydd dwylo hefyd ar gael ar y safle.
  • Dim ond un person a gaiff adael y cerbyd i ollwng y gwastraff a mynd at sgip ar y tro. 
  • Mae canolfannau ailgylchu ar gyfer ailgylchugwastraff cartrefyn unig.  Byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio defnyddio'r safleoedd i ailgylchu deunydd gweithgaredd masnachol.

Ar Ôl Eich Ymweliad

  • Pan fyddwch yn cyrraedd adref o'r ganolfan ailgylchu, dylech olchi eich dwylo ar unwaith am o leiaf 20 eiliad yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth.
  • Ar hyn o bryd, caiff ymweliadau â chanolfannau ailgylchu eu cyfyngu i 12 y cartref y flwyddyn, gyda dim mwy nag un ymweliad ar un diwrnod. Dim ond os na allwch storio eitemau'n ddiogel gartref heb risg o anaf neu niwed i'ch iechyd y dylech drefnu slot.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr helaeth o'r eitemau y gallwch ddod â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu a'r eitemau na fyddant yn cael eu derbyn, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau-gwastraff/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx