Back
Diweddariad COVID-19: 29 Mehefin

Yn y diweddariad ar COVID-19 a gafwyd heddiw gan Gyngor Caerdydd: blant a phobl ifanc yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth heddiw; yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; a mynd â pharseli bwyd i rai sy'n gadael gofal.

 

Ail-agorodd ysgolion yng Nghaerdydd heddiw

Gwelodd Caerdydd 6,600 blant a phobl ifanc yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth heddiw, wrth i ysgolion y ddinas ailagor ar gyfer yr 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 3 Mehefin.

Er mwyn cynnal cadw pellter cymdeithasol, mae hyd at draean o ddisgyblion a myfyrwyr yn yr ysgol ar unrhyw un adeg. Mae hyn yn golygu bod y plant a'r bobl ifanc yn dechrau'n gyfnodol, gyda sesiynau ailgydio a dal i fyny ar y gweill rhwng nawr a diwedd y tymor, ar 20 Gorffennaf.

Roedd llawer o ddiddordeb gan y cyfryngau wrth i gatiau'r ysgol ailagor yn y brifddinas, gyda newyddiadurwyr yn gohebu, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, o chwech o'n hysgolion yn ystod y dydd.

Yn y cyfnod cyn yr agor heddiw, mae ysgolion wedi bod yn cyhoeddi gwybodaeth, ac mae'r Cyngor wedi bod yn darparu canllawiau.

Mae Cwestiynau Cyffredin wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor, gan roi atebion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd a diogelwch, y cwricwlwm a gofal plant.

Cliciwch yma i weld y Cwestiynnau Cyffredin.

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx

Mae'r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu fersiwn o'r Cwestiynnau Cyffredin sy'n addas i blant, sydd i'w gweld yma:

https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/ysgolion/ail-agor-ysgolion-gwybodaeth-i-blant-a-phobl-ifanc/

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â chynllunio a'r rheoli gofalus sydd wedi bod yn ofynnol i ailagor ein hysgolion, er mwyn i'r plant a'r bobl ifanc gael ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer mis Medi.

"Rwy'n gwybod y bydd llawer o blant wedi cyffroi wrth feddwl am weld eu hathrawon a'u ffrindiau heddiw, ond yn yr un modd, roedd yna rieni, a staff, a oedd yn teimlo'n bryderus ynghylch plant yn dychwelyd i'r ysgol, a dyna pam mae cymaint o waith wedi mynd ar iechyd a diogelwch ein hysgolion yn ystod yr wythnosau diwethaf."

Ers dechrau'r clo ar 23 Mawrth, mae addysg yng Nghaerdydd wedi parhau drwy ddysgu o bell ar-lein, a alluogwyd gan athrawon gyda chymorth y Cyngor a Chonsortiwm Canolbarth y De.

Mae'r Cyngor wedi darparu dros 6,000 Chromebook i ddisgyblion ar draws y ddinas nad oedd dyfeisiau gartref ganddynt, a chysylltedd rhyngrwyd 4G i 1,700 o'r rhain drwy ddyfeisiau symudol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae'r mesurau cadw pellter cymdeithasol llym rydyn ni wedi'u rhoi ar waith wedi gweld ysgolion yn gweithredu ar gapasiti llai o lawer, gyda nifer sylweddol is ddisgyblion mewn ysgolion ar unrhyw un adeg.

"Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn parhau i ddysgu o'u cartrefi yn ystod yr wythnos, ac rwyf hefyd am ddiolch i'r staff sy'n rhan o'r gwaith o sicrhau bod gan y teuluoedd hynny mewn angen, y dyfeisiau a'r cysylltedd angenrheidiol erbyn hyn er mwyn cael mynediad at addysgu ar-lein eu hysgolion."

Yn ystod y cloi, mae 25 o ysgolion wedi bod yn gweithredu fel Hybiau Gofal Plant i weithwyr allweddol, gan ddarparu gofal plant i 450 o blant y dydd ar gyfartaledd. Mae'r canolfannau hyn hefyd wedi darparu cymorth hanfodol i ddysgwyr agored i niwed, a atgyfeiriwyd i gael cymorth gan ein Panel Dysgwyr Agored i Niwed newydd. Nawr fydd yr ysgolion wedi ail-agor, mae gofal plant wedi ei drosglwyddo i ysgol gartref y disgyblion weddill tymor yr haf.

 

Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma

Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar  Ddydd Gwener  yn cael casgliad gwastraff gardd  ddydd Sadwrn yma, 4 Gorffennaf.

Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.

Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.

Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.

Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.

Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.

 

Mynd â pharseli bwyd i rai sy'n gadael gofal

Mae'r Gwasanaeth Cynghorwyr Personol yn Hafan Gobaith wedi bod yn #Cydweithio gyda Chanolfan Porsche Caerdydd ar Heol Penarth i helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal, gan gynnig lleoliadau gwaith i alluogi'r bobl ifanc hyn i roi cynnig ar bob agwedd ar y busnes gan gynnwys gwaith yn y dderbynfa, yn glanhau, yn y gweithdy, yn marchnata ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r berthynas waith wedi rhoi cyfle i lawer o bobl ifanc gael profiad gwaith a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer eu CVs i helpu gyda chyflogaeth yn y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod cloi, Chanolfan Porsche Caerdydd wedi parhau i gynnig cymorth drwy gyfrannu bwyd (gweler y llun) y defnyddiodd tîm y Cynghorwyr Personol mewn parseli bwyd a gafodd eu danfon i'r rhai oedd yn gadael gofal ac oedd â'r angen mwyaf yn ystod y cyfnod cloi.