Back
Cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd

03.07.2020

Mae'r gyfradd ailgylchu a chompostio yng nghanolfannau ailgylchu Caerdydd wedi cynyddu o leiaf 10% ers i'r cyfnod cloi gael ei lacio.

Mae'r cyfleusterau yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer bellach yn cyflawni cyfradd ailgylchu a chompostio o 93% oherwydd y mesurau newydd a roddwyd ar waith.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rhoddwyd mesurau newydd ar waith ar y safle er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel i'n staff a'r trigolion ac mae'n galonogol iawn gweld bod y gyfradd ailgylchu wedi codi'n sylweddol ers i'r cyfleusterau ailagor.

"Mae'r trefniadau newydd - gan gynnwys system archebu ar-lein - yn gweithio'n iawn, ac mae'r adborth rydym wedi'i dderbyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan fod trigolion yn gallu mynd i ganolfan ailgylchu, cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill, gollwng eu heitemau swmpus a gadael y safle o fewn tua 15 munud.

Hefyd, cafodd y canolfannau ailgylchu eu hail-ddylunio i sicrhau bod trigolion yn gallu gwared ar eitemau swmpus na chânt eu casglu fel rhan o'r gwasanaeth ymyl y ffordd.

Ni ellir dod â bagiau gwyrdd o ailgylchu cymysg a gwastraff bagiau/biniau du i'r ganolfan ailgylchu a gofynnir i'r trigolion ddefnyddio'r gwasanaeth ymyl y ffordd a ddarperir i bob aelwyd yn y ddinas er mwyn gwaredu'r gwastraff hwnnw.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn cydnabod bod y safleoedd hyn wedi'u dylunio i sicrhau y gallwn adfer cymaint o wastraff â phosibl. Nid yw'r cyfleusterau'n ‘dipiau' neu'n ‘domenni' fel y buont yn y gorffennol. Rydym eisiau i bawb feddwl am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu ac i feddwl sut y gallant leihau'r gwastraff hwnnw. Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd ac rydym am fod y gorau yn y byd.

Mae'r rhestr lawn o'r hyn y gellir mynd ag ef bellach i'r canolfannau ailgylchu, sut y gall trigolion wneud apwyntiad gan gynnwys y system archebu benodol newydd ar gyfer faniau syddargael yng nghanolfan ailgylchu Bessemer Close, i gyd ar gaelyma

Mae cynghorion defnyddiol wedi eu rhoi i drigolion ar sut i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn yn ystod yr ymateb i COVID-19 ar gael i'w darllenyma