Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 7 Gorffennaf

Dyma'r diweddaraf ar gan Gyngor Caerdydd: paratoadau ar waith yn Stryd y Castell; hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street; ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd sydd bellach ar agor; ac ‘Annwyl CaerDyddiadur', yn ôl i'r ysgol â phlant a phobl ifanc y ddinas.

 

Paratoadau ar waith yn Stryd y Castell

Mae Stryd y Castell yng nghanol y ddinas yn cael arwyneb newydd heddiw, er mwyn trawsnewid y stryd a ffos y Castell yn ardal fwyta awyr agored, dan orchudd i gaffis a bwytai eu defnyddio.

Mae hwn yn rhan o ystod eang o fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yng nghanol y ddinas i gynyddu nifer y mannau agored ar gyfer y sector lletygarwch, i'w galluogi i fasnachu'n ddiogel, yn yr awyr agored, mewn lleoliadau sy'n galluogi pobl i ymbellhau'n gymdeithasol.

 

Hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street

Bydd Tudor Street yng Nghaerdydd yn elwa ar raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr ag ardal Glan yr afon.

Bydd cam un y datblygiad, sy'n dechrau ar y safle fis nesaf, yn gweld £1m yn cael ei fuddsoddi mewn safleoedd masnachol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yng nghynllun gwella adeiladau Tudor Street.

Mae cyllid pellach o tua £3m wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith yn gynnar yn 2021 a fydd yn galluogi trawsnewidiad mawr i amgylchedd y stryd gyfan.

Mae Ymgynghoriad ar broject 2021 ar fin dechrau a nod y cynllun yw cyflawni'r canlynol:

 

  • Lôn feiciau ddwy ffordd newydd, ar wahân, o Bont Stryd Wood i'r gyffordd â Clare Street
  • Ynys fysus newydd gyferbyn â Plantagenet Street, yn hwyluso teithio ar fysus i'r Sgwâr Canolog a chanol y ddinas yn ehangach
  • Seilwaith gwyrdd newydd, yn benodol coed a gerddi glaw, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer
  • Amgylchedd cyhoeddus dymunol a chroesawgar, gwella'r Porth i Dde Glan-yr-afon o ganol y ddinas, gyda blaenoriaeth i gerddwyr drwy balmentydd lletach a gwell croesfannau i gerddwyr
  • Gwell mynediad i Daith Taf drwy ailalinio'r ramp a'r grisiau presennol wrth y gyffordd â Tudor Street ac
  • Amgylchedd stryd gwell, gyda phalmentydd, celfi stryd a goleuadau newydd.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24278.html

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar gyfer Ysgol Uwchradd Fitzalan Newydd sydd bellach ar agor

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar Gais Cynllunio i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn agor heddiw, dydd Mawrth 7 Gorffennaf a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.

Os bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen, bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cynrychioli buddsoddiad £63.5 miliwn yn y gymuned leol a byddai'n gweld ysgol newydd yn cymryd lle'r ysgol bresennol ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna'r ddinas. 

Byddai'n 10 dosbarth mynediad, gyda lle i hyd at 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth. Byddai'r ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd, fydd yn cymryd lle y pwll nofio presennol sy'n cael ei ddefnyddio eisoes yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24284.html

 

Annwyl CaerDyddiaduron: Yn ôl i'r ysgol â phlant a phobl ifanc y ddinas

Mae plant a phobl ifanc ledled y ddinas yn cael eu hannog i gofnodi eu pennod nesaf ym mhroject CaerDyddiaduron - dychwelyd i'r ysgol.

Wrth i ysgolion ar draws y ddinas ddechrau croesawu disgyblion yn ôl yr wythnos hon yn eu sesiynau 'Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi', mae trefnydd y project, Addewid Caerdydd, yn atgoffa ysgrifenwyr dyddiadur ifanc bod amser o hyd i gymryd rhan a chyflwyno darn.

Mae mwy na 75 darn eisoes wedi'u cyflwyno fel rhan o'r project a lansiwyd ym mis Ebrill ar gyfer plant rhwng saith ac 16 oed, i rannu eu profiadau yn ystod argyfwng COVID-19 a dogfennu eu gweithgarwch, eu meddyliau a'u teimladau mewn recordiadau fideo, gludweithiau ffotograff neu gofnodion dyddiadur ysgrifenedig yn ystod y cyfnod cloi.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Adeiladu Principality, Amgueddfa Caerdydd, Cynghrair Sgrin Cymru a Phrifysgol De Cymru, bydd y project yn parhau dros yr wythnosau nesaf gan roi cyfle i bobl ifanc ledled y ddinas gofnodi eu profiad o ddychwelyd i'r ysgol yn eu dyddiaduron.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24282.html