Back
Gallai busnesau ddefnyddio mannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd sy'n edrych am safleoedd lle gellir cadw pellter cy
Gallai dosbarthiadau Zumba ym Mharc Bute, pwysau cloch ar y lawnt yng Ngerddi Sophia neu ymarfer côr ar y morglawdd i gyd fod yn rhan o'ch haf wedi’r cloi - os bydd cynlluniau'n mynd rhagddynt i agor rhai o brif fannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd i fusnesau lleol sy'n profi trafferthion wrth geisio cynnal gweithgaredd yn eu hadeiladau dan do arferol, yn sgil Covid-19.

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio arolwg heddiw, yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan fusnesau lleol a allai fod â diddordeb mewn llogi safleoedd mewn lleoliadau amlwg yn y brifddinas gan gynnwys Parc Bute, Gerddi Sophia a Bae Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Wrth i’r cyfyngiadau cloi lacio rydym yn benderfynol o wneud popeth allwn ni i gefnogi'r economi leol ac, ar yr amod ei bod yn bosibl i'r busnesau weithredu'n ddiogel, yn unol â rheolau cyfredol y Coronafeirws, gallai hwn fod yn gyfle diddorol iawn i rai busnesau ailgychwyn neu ehangu eu cynnig."

Mae'r arolwg yn awgrymu y gallai fod gan fusnesau yn y sectorau iechyd, ffitrwydd a chelfyddydau perfformio ddiddordeb arbennig yn y cyfle ond mae'n croesawu diddordeb gan fusnesau ym mhob rhan o'r economi ar yr amod bod y gweithgaredd yn  unol â rheoliadau presennol Coronafeirws Llywodraeth Cymru neu newidiadau a gyhoeddwyd eisoes ac y gellir eu haddasu i amgylchedd awyr agored.

I gofrestru eich diddordeb, ewch i: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ManAwyrAgored