Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 9 Gorffennaf

Dyma ddiweddariad Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth ysgol o fis Medi; Gallai busnesau ddefnyddio mannau digwyddiadau awyr agored sy'n edrych am safleoedd lle gellir cadw pellter cymdeithasol; a diolch yn fawr iawn i'r Ymgyrchwyr Sbwriel sy'n mynd i'r afael â'r taflwyr sbwriel.

 

Ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth ysgol o fis Medi

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd nifer o blant a rhieni ledled Cymru yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan Llywodraeth Cymru y bydd yr holl blant yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, yn llawn amser o fis Medi.

"Dros y misoedd diwethaf, mae llawer o waith wedi'i wneud gan ein hysgolion i gynnig dysgu o gartref, wedi'i hwyluso gan yr awdurdod lleol a'n partneriaid. Ond yn anochel felly, mae bod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth wedi golygu bod plant a phobl ifanc wedi bod ar eu colled. Mae dychwelyd i'r ysgol yn bwysig iawn ar gyfer eu haddysg, lles a datblygiad, ond, gwn fod rhai teuluoedd yn teimlo'n bryderus am y newyddion yma.  

"Mae sicrhau bod y broses dychwelyd yn llawn yn cael ei rheoli'n ddiogel a iechyd a diogelwch disgyblion a staff yn flaenoriaeth. Bydd Cyngor Caerdydd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn gweithio'n agos ag ysgolion i oresgyn unrhyw heriau fel y gallant groesawu disgyblion yn ôl i amgylchedd dysgu diogel y tymor nesaf."

Cyhoeddodd y, Kirsty Williams, gweinidog y canlynol:

  • Bydd ysgolion yn dychwelyd i gapasiti llawn gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt.
  • Wrth weithredu'n llawn, dylai grŵp cyswllt gynnwys tua 30 o blant. Bydd rhywfaint o gymysgu uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt hefyd yn amhosibl ei osgoi, fel ar gludiant, wrth dderbyn addysg arbenigol neu oherwydd cyfyngiadau staffio.
  • Dylai pob ysgol barhau i fod yn "Ddiogel Rhag Covid" - wedi cynnal asesiadau risg a lliniaru unrhyw risg gyda chyfuniad o fesurau rheoli fel hylendid dwylo ac arwynebau, systemau un ffordd ac ati.
  • Os yw gwybodaeth rybuddio gynnar yn dangos digwyddiad neu achosion lleol, dylai'r ysgolion cyfagos weithredu mesurau cyfyngu priodol.      
  • Bydd cyflenwad o becynnau profi cartref ar gael ym mhob ysgol.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/y-gweinidog-addysg-yn-cyhoeddi-cynlluniau-ar-gyfer-mynd-yn-ol-ir-ysgol-ym-mis-medi

 

Gallai busnesau ddefnyddio mannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd sy'n edrych am safleoedd lle gellir cadw pellter cymdeithasol

Gallai dosbarthiadau Zumba ym Mharc Bute, pwysau cloch ar y lawnt yng Ngerddi Sophia neu ymarfer côr ar y morglawdd i gyd fod yn rhan o'ch haf wedi'r cloi - os bydd cynlluniau'n mynd rhagddynt i agor rhai o brif fannau digwyddiadau awyr agored Caerdydd i fusnesau lleol sy'n profi trafferthion wrth geisio cynnal gweithgaredd yn eu hadeiladau dan do arferol, yn sgil Covid-19.

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio arolwg heddiw, yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan fusnesau lleol a allai fod â diddordeb mewn llogi safleoedd mewn lleoliadau amlwg yn y brifddinas gan gynnwys Parc Bute, Gerddi Sophia a Bae Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Wrth i'r cyfyngiadau cloi lacio rydym yn benderfynol o wneud popeth allwn ni i gefnogi'r economi leol ac, ar yr amod ei bod yn bosibl i'r busnesau weithredu'n ddiogel, yn unol â rheolau cyfredol y Coronafeirws, gallai hwn fod yn gyfle diddorol iawn i rai busnesau ailgychwyn neu ehangu eu cynnig."

Mae'r arolwg yn awgrymu y gallai fod gan fusnesau yn y sectorau iechyd, ffitrwydd a chelfyddydau perfformio ddiddordeb arbennig yn y cyfle ond mae'n croesawu diddordeb gan fusnesau ym mhob rhan o'r economi ar yr amod bod y gweithgaredd yn  unol â rheoliadau presennol Coronafeirws Llywodraeth Cymru neu newidiadau a gyhoeddwyd eisoes ac y gellir eu haddasu i amgylchedd awyr agored.

I gofrestru eich diddordeb, ewch i:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/ManAwyrAgored

 

Diolch yn fawr iawn i'r Ymgyrchwyr Sbwriel sy'n mynd i'r afael â'r taflwyr sbwriel

cid:image005.jpg@01D655F1.03AB8520

Rydym i gyd wedi gweld y lluniau o'r holl sbwriel yng Nghaerdydd ond nawr rydyn ni'n dathlu ein harwyr sbwriel sy'n mynd i'r afael â'r taflwyr sbwriel diog!

Dros y tri mis diwethaf, mae ein hymgyrchwyr Carwch Eich Cymuned wedi bod yn brysur iawn yn cael eu hymarfer corff dyddiol yn casglu sbwriel ledled Caerdydd.

Er nad yw'r Grwpiau Cadwch yn Daclus wedi gallu cyfarfod, mae llawer yn gwneud eu digwyddiadau casglu eu hunain gydag aelodau eu cartrefi i gadw momentwm.

Hyd yn hyn mae gwirfoddolwyr wedi adrodd eu bod wedi casglu 1,300 o fagiau o wastraff ers dechrau mis Ebrill, gan dreulio dros 900 awr yn casglu sbwriel.

Mae hwn yn ymrwymiad anhygoel ac rydym mor ddiolchgar i gael gwirfoddolwyr mor wych yng Nghaerdydd yn helpu i gadw'r lle'n daclus i bawb.

Diolch bawb am eich holl waith caled.

Rhowch wybod am unrhyw sbwriel drwy ein gwefan:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/addysg-a-gorfodaeth-gwastraff/sbwriela/Pages/default.aspx

Neu ymuno â miloedd o drigolion ac ymwelwyr sydd wedi lawrlwytho ap Caerdydd gov am ffordd well o gysylltu â gwasanaethau'r Cyngor ac i roi gwybod am daflu sbwriel yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx