Back
Datgelu argraff arlunydd o Heol y Castell wedi'i hailwampio

13/07/20 

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhyddhau argraff arlunydd yn dangos yr ardal fwyta awyr agored newydd dan orchudd a gynlluniwyd ar gyfer Heol y Castell yng Nghaerdydd. 

Mae'r cynllun yn rhan o ystod ehangach o fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith yng nghanol y ddinas i gynyddu'r gofod awyr agored y gellir ei ddefnyddio gan y sector lletygarwch sy'n ceisio adfer o effeithiau'r pandemig. Bydd yr ardal letygarwch newydd yn galluogi busnesau i fasnachu'n ddiogel mewn lleoliadau awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol. Gall ymwelwyr archebu bwyd a diod i'w gyflenwi gan ddetholiad o fwytai a chaffis yng nghanol y ddinas drwy gyfrwng app.

Mae gwaith i osod tarmac ar Heol y Castell eisoes wedi'i gyflawni a'r gobaith yw y gallai'r ardal awyr agored newydd fod ar gael i'w defnyddio erbyn diwedd y mis.

Caiff y gofod awyr agored newydd ei greu yn uniongyrchol ar Heol y Castell ei hun gan gynnig golygfa drawiadol o'r castell eiconig i ymwelwyr â chanol y ddinas. Caiff rhagor o fanylion ar sut y gweithredir y gofod eu rhyddhau yn agosach at y dyddiad agor.