Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Gorffennaf

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn trafod: dosbarthu Prydau Ysgol am Ddim yn llwyddiant i Gaerdydd; Phrofi, Olrhain, Diogelu, symptomau COVID-19 i gadw golwg amdanynt, a sut i gael prawf; a gochelwch rhag y cowbois Gwastraff.

 

Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn llwyddiant i Gaerdydd

Mae trefniadau Caerdydd i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim drwy system taliadau rheolaidd tra bo ysgolion wedi bod ar gau oherwydd COVID-19 wedi'u barnu'n llwyddiannus.

Wedi'i ddatblygu a'i gyflawni gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â ParentPay, mae'r cynllun wedi sicrhau y gall plant ddal ati i gael prydau dyddiol wrth gynnig hyblygrwydd i rieni a gofalwyr o ran ble gallant siopa.

O'r 12,671 o deuluoedd sydd â phlant cymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, mae 11,216 wedi rhoi cyfrif ParentPay ar waith, sy'n eu galluogi i gael taliadau bob pythefnos wedi eu rhoi i'w cyfrif banc yn uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd taliadau yn parhau drwy gydol gwyliau'r haf tan 31 Awst a bydd yn cynnwys y disgyblion hynny ym mlwyddyn 11 - 13, y byddai eu hawl fel arfer yn dod i ben ar ddiwedd tymor yr haf.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gwneud yn siŵr nad yw plant sydd fel arfer yn derbyn prydau ysgol am ddim wedi bod ar eu colled yn ystod cyfnod cau'r ysgolion wedi bod yn flaenoriaeth o'r cychwyn cyntaf ac mae llawer o gynllunio wedi'i wneud er mwyn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau a fyddai orau i deuluoedd.

"Mae'r system taliadau rheolaidd yn golygu bod gan deuluoedd fwy o ddewis a hyblygrwydd o ran ble maent yn prynu bwyd eu plant ac mae'r niferoedd a sydd wedi cofrestru yn dangos bod y cynllun wedi cael croeso ymhlith teuluoedd Caerdydd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Mae nifer o dimau'r Cyngor wedi cydweithio i ddatblygu a chyflawni'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim ac mae'n enghraifft ragorol o sut mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio ar y cyd i gynnig cymorth a gwasanaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng iechyd."

Mae'r cynllun ParentPay yn rhedeg law yn llaw â threfniadau talebau presennol y gall rhai teuluoedd ddewis parhau gyda nhw. Mae'n cynnig taleb fesul pythefnos y gellir ei defnyddio  mewn un o'r chwech archfarchnad ganlynol: ASDA, Tesco, Morrisons, Sainsbury's, Marks and Spencer ac Waitrose.

Yn ogystal, mae trydydd dewis i deuluoedd a all fod yn hunan-warchod neu'n hunan-ynysu hefyd ar gael, sef dosbarthiadau bwyd wythnosol yn  uniongyrchol i deuluoedd.

Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr sydd angen cymorth i ddefnyddio ParentPay, e-bostiwch:

arlwyodiarian@caerdydd.gov.uk

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill ynghylch prydau ysgol am ddim, cysylltwch â:prydauysgolamddim@caerdydd.gov.uk

Os yw eich sefyllfa ariannol wedi newid oherwydd yr argyfwng iechyd presennol, gall fod gennych hawl i Brydau Ysgol am Ddim ar gyfer eich plant a gaiff eu cynnig tra bo'r ysgolion ar gau. I weld a ydych chi'n gymwys ac i gael gwybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch i: 

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx

 

Phrofi, Olrhain, Diogelu, symptomau COVID-19 i gadw golwg amdanynt, a sut i gael prawf

Peswch parhaus, tymheredd uchel neu wedi colli'r gallu I flasu neu arogli?

Efallai bod gennych y coronafeirws.

Arhoswch gartref.

Atal lledaeniad.

Diogelu Cymru.

Gwneud cais i gael prawf coronafeirws:

http://orlo.uk/cR1zb

 

Gochelwch rhag y Cowbois Gwastraff

Gyda chasgliadau gwastraff bob pythefnos yn ail-ddechrau o ddydd Llun 6 Gorffennaf, rydym bron â bod yn cynnal yr un gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ag a gafwyd cyn y pandemig Coronafeirws*.

Mae ein slotiau casglu gwastraff swmpus yn cael eu harchebu'n gyflym a gofynnwn i chi gofio hyn os ydych yn aros am gasgliad.

Dylech gadw slot dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol ac na allwch gadw'r eitem mewn lle diogel yn eich cartref am y tro.  Gallwch gael gwybod sut i drefnu casgliad yma.

Os trefnwch gasgliad gwastraff y cartref gyda chwmni preifat neu "dyn gyda fan", sicrhewch eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig trwy fynd i Cyfoeth Naturiol Cymru a chadarnhau bod ganddynt nodyn trosglwyddo gwastraff.

Dylai'r nodyn trosglwyddo gwastraff esbonio o ble mae'r gwastraff yn cael ei gasglu ac i ba gyfleuster gwaredu trwyddedig y mae'r gwastraff yn cael ei gludo. Os yw'r person sy'n casglu'r gwastraff yn gwrthod darparu'r wybodaeth hon, peidiwch â defnyddio ei wasanaethau. Fel arall, os deuir o hyd i'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ac os caiff ei olrhain i'ch cartref chi, gallech chi gael eich erlyn neu dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.

Ein cyngor ni yw:

  • Dylech bob amser sicrhau bod trwydded cludo gwastraff ar gael - gallwch wneud hyn trwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cofnodwch fanylion cyswllt ac enw'r cwmni
  • Gofynnwch i ble bydd y gwastraff yn cael ei gludo
  • Dylech bob tro ofyn am dderbynneb yn cadarnhau beth sydd wedi cael ei gymryd ac i le mae'n mynd

Os oes angen i chi gael gwared ar eich eitemau ar frys, gallwch gadw lle yn ein Canolfannau Ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer, sydd bellach yn derbyn eitemau trydanol mawr, nwyddau gwyn, batris, dillad, teiars, paent a sawl eitem arall a dderbyniwyd cyn dechrau pandemig COVID-19.

Mae Canolfannau Ailgylchu ar gyfer gwaredu gwastraff y cartref yn unig.

Mae ymweliadau â'n Canolfannau Ailgylchu wedi'u cyfyngu i 12 ymweliad y flwyddyn fesul aelwyd. Dim ond unwaith y dydd y cewch ymweld â nhw.

Hefyd gallwch ymweld â Chanolfan Ailgylchu Clos Bessemer mewn fan erbyn hyn. Dim ond unwaith y dydd y cewch ymweld â hi a dim ond unwaith y mis y cewch ymweld â hi mewn fan.

Trefnwch eich ymweliad yma:

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Strategies-plans-and-policies/Emergency-Planning-and-Resilience/coronavirus-information/waste-service-changes/recycling-centres/Pages/default.aspx

Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei waredu'n gywir.  Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth ynghanol gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon sy'n ein harwain yn ôl i'r preswylydd, wedyn bydd hwnnw neu honno'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £300.  Os byddwn yn dod o hyd i'r masnachwr a dipiodd y gwastraff yn anghyfreithlon, bydd ef neu hi'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 neu gael ei erlyn o bosibl.

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am ailgylchu a gwastraff yng Nghaerdydd ewch i:

www.caerdydd.gov.uk/ailgylchu

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am dipio anghyfreithlon, ewch i:

www.flytippingactionwales.org

*Nid yw casgliadau gwydr ar wahân wedi ailddechrau eto. Cesglir gwastraff bwyd ac ailgylchu bob wythnos. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff hylendid, cesglir y gwastraff hwn bob pythefnos.