Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 16 Gorffennaf

Dyma ddiweddariad heno gan Gyngor Caerdydd sy'n cwmpasu: newyddion o gyfarfod heddiw Cabinet Cyngor Caerdydd; y diweddaraf ar y cyfle i fusnesau ddefnyddio ein mannau digwyddiadau yn yr awyr agored; a chanlyniadau safonau hylendid gwael ym maes erlyn bwytai.

 

Cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd Heddiw

Cynhaliwyd cyfarfod o Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw, y trydydd cyfarfod yn olynol i gael ei gynnal dros gynhadledd fideo.

Trafododd Arweinydd y Cyngor, Aelodau Cabinet ac Arweinwyr grwpiau'r gwrthbleidiau yr adroddiadau canlynol:

Arweinydd

  • Sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol

Tai a Chymunedau

  • Digartrefedd - Yr Ymateb i Argyfwng Covid-19 a Chyflawni Model Gwasanaeth y Dyfodol

Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau

  • Cytundeb Partneriaeth Strategol Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC)

Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad

  • Alldro 2019/20
  • Ailgaffael Fframweithiau Caffael Cenedlaethol Adeiladu Cydweithredol ac Ymgynghoriaeth Sifil Blaenorol

Cafodd y cyfarfod ei weddarlledu hefyd, a gellir gweld recordiad ohono, ynghyd â dolenni i adroddiadau'r Cabinet, yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=4206&Ver=4

Hefyd cyhoedwyd y datganiadau canlynol i'r wasg yn y cyfnod cyn cyfarfod heddiw:

Tasglu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghyfiawnder y mae cymunedau BAME Caerdydd yn eu hwynebu
Cliciwch yma i weld:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24320.html

Dim Troi Nôl: Gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau digartrefedd

Cliciwch yma i weld:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24324.html

Cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gyda chymorth Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Cliciwch yma i weld:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24321.html

I weld rhestrau'r holl gyfarfodydd sydd i ddod, gan gynnwys cyfarfodydd Craffu, cyfarfodydd Cabinet a chyfarfodydd y Cyngor Llawn, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd

Cynhaliwyd tri chyfarfod Cabinet ar-lein hyd yn hyn. Mae dolenni at weddarllediadau'r ddau gyfarfod blaenorol a gynhaliwyd dros gynadledda fideo fel a ganlyn:

24 Mehefin 2019

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=4197&Ver=4

11 Mehefin 2020:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=4176&Ver=4

 

Y diweddaraf ar y cyfle i fusnesau ddefnyddio ein mannau digwyddiadau yn yr awyr agored

Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom ofyn i fusnesau, sy'n ei chael hi'n anodd gyda'u safleoedd dan do arferol oherwydd COVID-19, ddatgan diddordeb o ran y posibilrwydd o ddefnyddio mannau digwyddiadau awyr agored yn rhai parciau Caerdydd.

O ystyried lefel y diddordeb, byddwn nawr yn bwrw ymlaen â hyn - yn y lle cyntaf ar safleoedd ger y Gored Ddu, ac yn disgwyl dechrau derbyn archebion cyn bo hir.

Os ydych chi'n fusnes a allai elwa, cwblhewch yr arolwg cyflym hwn:

https://www.surveymonkey.co.uk/r/ManAwyrAgored

 

Pla chwilod duon wedi'i ddarganfod yng nghaffi a siop gludfwyd Heol y Plwca

Gorchymynnwyd i gwpl priod dalu dros £2,000 yn Llys Ynadon Caerdydd ar 9 Gorffennaf ar ôl i bla chwilod duon gael ei ddarganfod yn eu caffi - Mr Tikka - ar Heol y Plwca y llynedd.

Ar 7 Mai 2019, cynhaliwyd archwiliad hylendid bwyd arferol yn Mr Tikka, 130 Heol y Plwca, sy'n gweithredu fel caffi a busnes cludfwyd gan werthu bagéts, tatws pob a phrydau bwyd cyri.

Pan gyrhaeddodd yr arolygydd y caffi'n ddirybudd, gwelwyd y perchennog, Rubi Begum, yn ysgubo dau bryfyn byw oddi ar y cownter ac roedd powdr gwyn, y credir ei fod yn bryfleiddiad, dros lawr y gegin.

Ffoniodd yr arolygydd y Swyddog Diogelwch Bwyd ar Ddyletswydd yn syth gan ei bod yn amlwg bod pla pryfed yn y caffi a'r busnes cludfwyd.

Pan gyrhaeddodd y Swyddog Bwyd ar Ddyletswydd yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cynhaliwyd archwiliad llawn a darganfuwyd hyd at 100 o bryfed, yn fyw ac wedi marw; daethpwyd o hyd i fwyd o dan y cownteri ac ar y waliau a darganfuwyd chwilod duon hyd yn oed o dan y byrddau yn yr ardal fwyta lle roedd pobl yn bwyta.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24361.html