Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Gorffennaf

Yn y diweddariad heddiw gan Gyngor Caerdydd: 10 rheswm gwych dros ymweld â Chaerdydd ar ôl y cloi; Heol Wellfield ynghau rhwng 7am a 12 hanner dydd yfory; sut i gael gwared ar eich hancesi papur a'ch cadachau gwrth-facteria yn ddiogel; a gwaith y Tîm Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig.

 

10 rheswm gwych i ymweld â Chaerdydd ar ôl y cyfnod cloi

Os yw misoedd o fod ‘dan glo' wedi eich gadael yn dyheu am drip siopa, yn awchu am antur, neu'n blysio am brydau bwyd da a noson wych allan yna mae gan Gaerdydd bopeth sydd ei angen arnoch - gan gynnwys tawelwch meddwl pan ddaw i ddiogelwch - oherwydd ‘yr un ddinas ry'n ni gyd yn ei charu. Ond mae pethau bach yn newid.'

Wrth i'r ddinas lansio ymgyrch farchnata newydd gyda'r nod o roi gwybod i bobl bod Caerdydd yn agored i fusnes ac yn ddiogel i ymweld â hi, dyma 10 rheswm gwych dros ymweld â Chaerdydd nawr bod y cyfyngiadau cloi yn llacio:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24375.html

Lansiodd yr ymgyrch 'Yr Un Ddinas, Pethau bach yn newid" Ddydd Gwener, 17 Gorffennaf, a bydd amrywiaeth o weithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion radio ac arwyddion stryd yn cario sloganau gan gynnwys:

 

  • Ambell Newid. Yr Un Ddinas.
  • Arwyddion Newydd. Yr Un Ddinas.
  • Pellach Ar Wahân. Yr Un Ddinas. 
  • Yr Un Ddinas. Ond Yn Ddiogelach.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Chaerdydd, gan gynnwys manylion am y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno i wella diogelwch yng nghanol y ddinas yn ogystal â gwybodaeth am siopau agored, bwytai ac atyniadau, ewch i:

www.croesocaerdydd.com

 

Heol Wellfield yn cau rhwng 7am a 12 hanner dydd yfory

Bydd Heol Wellfield yn cau i draffig o 7am tan 12 hanner dydd yfory (dydd Mawrth, Gorffennaf 21), fel y gellir gosod Coed Bedw newydd yn lle'r coed a gafodd eu fandaleiddio.

Mae'r coed yn rhan o gynllun peilot i ledu'r palmentydd, fel y gall y cyhoedd ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Darllenwch ragor yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24086.html

 

Sut i gael gwared ar eich hancesi papur a weips gwrthfacterol yn ddiogel

Mae bob un ohonom yn defnyddio hancesi papur, weips gwrth-facterol a thyweli papur mwy nag erioed, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwaredu nhw'n gywir.

Does dim modd ailgylchu'r rhain ac NI ddylid eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu.

Er bod hancesi papur wedi'u gwneud o bapur, maent yn ffibrau byr iawn ac nid ydynt o safon ddigon uchel i'w hailgylchu.

Yn lle, dylid eu rhoi yn eich bagiau streipiau coch gwastraff cyffredinol neu finiau du. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi.

Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau coronafeirws, megis tymheredd uchel neu beswch, dylech ddyblu'ch bagiau gwastraff cyffredinol os gallwch a'u gadael am 72 awr cyn eu rhoi y tu allan i'w casglu.

Rydyn ni hefyd yn argymell diheintio handlenni'r bin a golchi eich dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl rhoi'r bin allan i'w gasglu.

Bydd hyn oll yn sicrhau ein bod yn atal trosglwyddo'r firws cymaint â phosibl.

Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gweler ein tudalen Ailgylchu A-Y:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

 

Tîm Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig

Mae'r tîm canolog Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig wedi cadw cysylltiad â theuluoedd sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches yn ogystal â chefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed y mae angen help arnynt i gyfathrebu trwy'r Saesneg trwy gydol yr argyfwng.

Mae eu staff dwyieithog wedi bod yn gweithio ar draws ysgolion, gan gyfieithu ar gyfer teuluoedd, er mwyn sicrhau bod gan blant fynediad parhaus i waith dosbarth yn ogystal â systemau cymorth.

Bilingual staff have also helped older pupils to keep in touch with their schools and have helped families with applications for children wishing to start school as well as supporting with transition between schools, sixth form and further education colleges. 

Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd dwyieithog sydd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae athro arbenigol mewn un ysgol yng Nghaerdydd wedi canmol aelod o'r tîm dwyieithog, gan ddweud, 'Mae hi wedi bod yn wych ac mor barod i helpu wrth gyfathrebu â rhieni yn effeithiol yn ystod y cyfnod ansicr hwn.'

Mae athrawon yn parhau i gysylltu â staff yr ysgol er mwyn anfon gwaith priodol at ddysgwyr Saesneg ac mae pecynnau gwaith wedi'u darparu i ddisgyblion nad ydynt eto'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol. Maent hefyd wedi bod yn brysur yn creu pecynnau i gynorthwyo athrawon i barhau i ddarparu cwricwlwm amrywiol ei ddiwylliant.