Mae'r penderfyniad i leihau amlder torri gwair ar draws ardal sy’n cyfateb i faint 6 chae pêl-droed yn mynd â chyfanswm arwynebedd y dolydd brodorol, sy’n dda i bryfed peillio, a safleoedd ‘torri unwaith’ y mae’r Cyngor yn gofalu amdanynt i 33.5 hectar.
Mae’r cyfundrefnau torri unwaith yn Sblot wedi’u nodi yn dilyn ymgynghoriad â grwpiau cymunedol lleol a chânt eu rhoi ar waith ym Mharc Moorland, Parc Sblot a Pharc Tremorfa.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Dros amser bydd y safleoedd newydd hyn yn dod â lliw i'r rhannau hyn o barcdir ac yn cynnig cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt.
"Mae'n bwysig dweud nad yw hyn yn ymwneud ag arbed arian - bydd unrhyw arbedion a wneir yn fychan iawn, ond mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach a diogelu natur er budd y blaned a chenedlaethau'r dyfodol.
"Byddwn yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer mwy o safleoedd a allai gefnogi'r trefniadau torri gwair llai aml hyn, ond mae angen cydbwysedd - nid yw pob safle'n addas ar gyfer y math hwn o gyfundrefn torri gwair, ac mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod gan breswylwyr fannau gwyrdd addas i gerdded eu cŵn neu adael i'w plant chwarae."
Bydd y gyfundrefn torri gwair newydd yn cael ei
rhoi ar waith o ddechrau'r tymor torri gwair nesaf.