Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn dadl a phleidlais a gynhaliwyd yng Nghyngor Llawn Caerdydd.
Galwodd Arglwydd Faer Du cyntaf Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'ath, am i'r cerflun gael ei dynnu oherwydd cysylltiadau Picton â chaethwasiaeth a'i arteithio a ddogfennwyd o ferch yn ei harddegau a orfodwyd yn gaethwas yn India’r Gorllewin.
Cefnogwyd yr alwad i dynnu'r cerflun gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas, a ddwedodd: “Bu galwadau cyhoeddus amlwg iawn yn sgil y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys i ailasesu sut y caiff unigolion o hanes gwledydd Prydain a fu’n gysylltiedig â chaethwasiaeth eu coffau. Yng Nghaerdydd yn benodol, mae’r ddadl wedi canolbwyntio ar gerflun Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas.
"Rwy'n falch iawn bod ein Cyngor wedi penderfynu tynnu'r cerflun hwn ac rwyf hefyd wrth fy modd bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud yn dilyn dadl gyhoeddus a phleidlais ddemocrataidd.
“Fodd bynnag, er bod camau fel y rhain yn bwysig, ni allant ein gwyro rhag y dasg galetach o geisio mynd i’r afael â’r heriau sy’n dal i gael eu profi gan gymunedau Pobl Dduon heddiw.
“Er bod gan Gaerdydd hanes amlddiwylliannol y gellir bod yn falch ohono, a thraddodiad o ddathlu amrywiaeth, ni all hyn esgusodi unrhyw hunanfodlonrwydd neu ddiffyg gweithredu, ac mae’n rhaid i ni gydnabod bod pobl groenliw yn y ddinas yn gorfod delio â hiliaeth bob dydd. Mae’n bwysig felly, yn fy marn i, ein bod ni hefyd yn meddwl am sut y gallwn fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu cymunedau Pobl Dduon yn y ddinas. Dyna pam fy mod yn creu tasglu i weithio gyda chymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd i gael gwybod beth arall y gall y Cyngor ei wneud i’w cefnogi. Rwy’n awyddus i sicrhau nad yw hyn yn dod yn siop siarad lle y caiff yr un trafodaethau rydym wedi’u clywed ers degawdau eu hailadrodd. Yn hytrach, rydw i eisiau clywed gan leisiau newydd, a chanolbwyntio ar faterion tactegol y gall y Cyngor weithredu’n gyflym arnynt, ac annog newid mewn pobl eraill, gan ymateb i anghenion go iawn ein cymunedau.”
Bydd y cerflun o Picton nawr yn cael ei osod y
tu fewn i flwch yn y Neuadd Farmor tra bod cais yn cael ei gyflwyno i wneud
addasiadau i’r adeilad rhestredig Gradd1. Bydd y cais yn cael ei wneud i
Lywodraeth Cymru a fydd yn derbyn cyngor gan CADW, ei wasanaeth amgylchedd
hanesyddol. Gallai'r broses hon gymryd
mwy nag 20 wythnos.