Back
Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd: Mwy o gymorth i bobl ifanc yn ystod COVID-19
24/7/2020

 

Mae mwy o ddarpariaeth a chymorth ar gael i bobl ifanc gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd er mwyn ateb galw mwy yn ystod COVID-19.

 

Mae ystod o wasanaethau arloesol newydd wedi’u cyflwyno ac mae llawer o’r gwasanaethau sydd gennym yn cynnig mwy er mwyn ymgysylltu â, a chefnogi, y nifer fawr o bobl ifanc ledled y ddinas nad yw llawer ohonynt wedi gallu mynychu’r ysgol, y coleg na darpariaethau ieuenctid ers mis Mawrth.

 

Mae’r Cyngor wedi ail-leoli staff i ymuno â’r tîm dynodedig sydd ar y stryd ac mae Gweithwyr Ieuenctid ar y Stryd hefyd ar waith ym mhob rhan o Gaerdydd gan gynnwys canol y ddinas i ymgysylltu â phobl ifanc, gwrando ar eu barn a’u cyfeirio at gymorth ychwanegol.

 

Mae mwy o ymgysylltu rhwng gwasanaethau a phobl ifanc wedi bod ac mae’r Cyngor wedi penodi swyddog digidol i oruchwylio’r maes. Mae timau o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi creu ffyrdd newydd o sgwrsio â phobl ifanc trwy gynnal gweithgareddau arloesol ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cystadlaethau a sesiynau Holi ac Ateb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae’r argyfwng iechyd byd eang wedi bod yn anodd i bawb, ond yn benodol i bobl ifanc y mae eu bywydau wedi newid yn sylweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

 

“Heb yr ysgol, y coleg na gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau, mae’n bosibl bod llawer o bobl ifanc yn teimlo’n unig ac wedi’u hynysu heb gyswllt rheolaidd â’u ffrindiau a’u teulu.

 

“Trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, hybiau a gwasanaethau plant, mae ein timau wedi chwarae rôl hanfodol o ran cynnal cyswllt a chynnig cymorth, yn benodol i’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y ddinas.”

 

 

Mae mentrau parhaus eraill yn cynnwys:

  • Gwiriadau lles i gefnogi grwpiau a nodwyd fel pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, grwpiau anabl a grwpiau lleiafrifol.

  • Mentoriaid Ieuenctid yn gweithio o bell gyda disgyblion Blwyddyn 11 i’w helpu i bontio’n llwyddiannus i ddarpariaeth ôl-16.

  • Mae Canolfan Gweithgareddau Ieuenctid Caerdydd yn cefnogi pobl ifanc gyda darpariaeth fel celf, coginio, gweithgareddau ffitrwydd a chystadlaethau.

  • Mae’r tîm ôl-16 yn rhoi cymorth emosiynol, parseli bwyd a chyflenwadau babanod i rieni ifanc yn ystod y cyfnod cloi.

  • Mae Llawr Gwlad yn parhau i roi bwyd i bobl ifanc ôl-16 sydd ei angen ac yn ymgysylltu’n ddiogel â phobl ifanc yng nghanol y ddinas, gan roi gwybodaeth benodol.

     

    Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: “Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi creu ffyrdd creadigol o sicrhau bod gwasanaethau’n parhau ac yn cael eu datblygu. Mae nifer mwy o Weithwyr Ieuenctid ar y strydoedd wedi bod yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc.”