Back
Toiledau ym mharciau Caerdydd yn ail-agor
Mae mwyafrif y toiledau sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor ym mharciau Caerdydd wedi ail-agor gyda threfniadau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae toiledau a weithredir gan y Cyngor ym Mharc Fictoria, Gerddi Pleser Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath (Dwyrain) nawr ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.

Cyn ail-agor, mae'r cyfleusterau hyn ym mharciau Caerdydd wedi cael eu glanhau, eu profi a'u hasesu. Mae arwyddion wedi'u gosod sy'n annog ymbellhau cymdeithasol a chyfleusterau hylendid dwylo da wedi’u cyflwyno a bydd rotâu glanhau ddwywaith y dydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gyda threfnau glanhau rheolaidd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith rydym yn hyderus bod y cyfleusterau pwysig hyn yn ein parciau mor ddiogel a hylan erbyn hyn ag y gallwn eu gwneud, ond byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymweld â'r parciau hyn i gario hylif diheintio’r dwylo a'i ddefnyddio cyn ac ar ôl mynd i'r cyfleusterau i helpu i ddiogelu eu hunain ac eraill."

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gyfleusterau toiled dan do fod ar agor gyda mesurau glanhau priodol yn eu lle ac mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lletygarwch lleol, a Caerdydd AM BYTH yng nghanol y ddinas, i annog bariau, tafarndai, caffis a bwytai sydd wedi ail-agor i agor eu cyfleusterau toiled cyn gynted ag sy'n ymarferol.

Mae nifer o adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor gyda thoiledau sydd fel arfer yn hygyrch i'r cyhoedd yn parhau i fod ar gau oherwydd Covid-19, ond mae toiled cyhoeddus ar gael ar lawr gwaelod Marchnad Caerdydd.

Mae'r toiledau allanol ar dir Castell Caerdydd ar agor i'r bobl sy'n defnyddio'r lle yno a bydd cyfleusterau toiled dros dro ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer cwsmeriaid sy'n defnyddio'r ardal eistedd awyr agored sy'n cael ei hadeiladu ar Stryd y Castell ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i ail-agor toiledau sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn Hybiau'r ddinas cyn gynted â phosibl.

Bydd y cyfleusterau toiled ar y Morglawdd yn cael eu hagor yr wythnos hon, cyn gynted ag y cwblheir yr asesiadau glanhau, profi a risg angenrheidiol a’i bod yn ddiogel gwneud hynny.

Mae'r toiledau nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ac yng Nghei'r Fôr-forwyn ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio.