Back
Canfasio Blynyddol 2020 – Peidiwch â cholli eich llais


29/7/20
Mae'r canfasio blynyddol o bleidleiswyr cymwys yn y ddinas bellach ar y gweill, gyda rhai 14 i 16 oed yn gallu cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf.

 

Mae'r gyfraith wedi newid yng Nghymru, felly bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf ym mis Mai. Bydd dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd hefyd yn gallu cymryd rhan, drwy gofrestru i bleidleisio.

 

Anogir trigolion ledled y ddinas, gan gynnwys y grwpiau hyn o bleidleiswyr sydd newydd eu rhyddfreinio, i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

 

Cynhelir y canfasio dros yr haf bob blwyddyn ac mae'n sicrhau bod cofrestr etholiadol Caerdydd yn cael ei diweddaru, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny.

 

Cysylltir â phreswylwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost er mwyn gwirio bod y wybodaeth a gedwir am eu haelwyd yn parhau'n gywir ac y gellir gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.   Gofynnir i breswylwyr gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor cyn gynted â phosibl os oes angen unrhyw newidiadau.

 

Gall rhai 14 i 16 oed yng Nghymru a dinasyddion tramor cymwys bellach gofrestru i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd 2021.  Bwriedir cynnal etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ym mis Mai ac er nad yw'r etholfraint newydd yn ymestyn i'r etholiad penodol hwn, anogir pob preswylydd cymwys arall i gofrestru er mwyn gallu pleidleisio.

 

Dywedodd Paul Orders, swyddog cofrestru etholiadol Cyngor Caerdydd: "Mae'n bwysig i breswylwyr gadw llygad ar agor ar gyfer y llythyr canfasio rydym yn ei anfon allan, fel y gallwn sicrhau bod y manylion cywir gennym ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn y ddinas. Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu lleisio'ch barn mewn etholiadau y flwyddyn nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr. 

"Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw'n ymddangos yn y negeseuon a anfonwn.  Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote, neu byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn y post yn esbonio sut i wneud hyn.

"Mae canfasiad eleni, y mae'n rhaid i ni ei gynnal yn ôl y gyfraith, yn digwydd yn ystod sefyllfa iechyd cyhoeddus heriol. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth i ganllawiau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys pwysigrwydd parhaus cadw pellter cymdeithasol."

Mae pobl sydd wedi symud yn ddiweddar yn cael eu hannog yn arbennig i edrych allangadw golwg ar gyfer y negeseuon cofrestru pleidleiswyr a gwirio'r manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar lawer yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheini sydd wedi bod yn byw yn yr un cyfeiriad ers tro byd.

Dangosodd yr ymchwil fod 92% o'r bobl sydd wedi bod yn eu heiddo am fwy na 16 mlynedd wedi cofrestru o'i gymharu â 36% o'r bobl sydd wedi bod yn byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru:  "Mae'n bwysig iawn bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn gallu gwneud hynny.  Bellach, mae gan fwy o bobl yr hawl i bleidleisio yng Nghymru, gan gynnwys pobl 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys.  Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'ch awdurdod lleol pan fydd ei angen yn sicrhau bod y broses yn rhedeg yn ddidrafferth.  Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol yn y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd, gan y bydd yn helpu i osgoi'r angen am ymweliadau cartref gan ganfaswyr.

"Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am gofrestru i bleidleisio ar ein gwefanhttps://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr."

Gall unrhyw breswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau gael rhagor o wybodaeth yma www.caerdydd.gov.uk/etholiadau