Back
Dim sgrybs? Neuadd Llanofer yn achub y dydd

 

29/7/20
Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gwnïo gyda'r gorau mewn project cymunedol i greu dillad gwaith ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Mae'r staff a'u cynorthwywyr o'r ganolfan dysgu cymunedol a'r celfyddydau wedi rhoi eu hamser, eu sgiliau a'u harbenigedd ar gyfer y project.

 

Ymunodd aelodau o'r cyhoedd â thiwtoriaid, dysgwyr a staff Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer yn Nhreganna i ffurfio tîm o 45 o bobl i wneud sgrybs ar gyfer nyrsys, meddygon a staff eraill y GIG.

 

Daeth y fenter at ei gilydd ar ôl i Bennaeth Technoleg Ysgol Plasmawr, Nia Clements, gysylltu â Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i'r ymdrech yn erbyn COVID-19 ac apeliodd am wirfoddolwyr i gefnogi'r project ar Facebook. Ymatebodd Rheolwr Canolfan Neuadd Llanofer, John Hobson, a'r cynorthwy-ydd gweinyddol, Gaynor Robinson, gan gynnig y ganolfan fel un o'r hybiau i wneud y gwisgoedd.

 

Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn brysur yn defnyddio eu sgiliau gwnïo i gynhyrchu 591 o diwnigau gyda defnydd a ddarparwyd gan Alexandra Workwear ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio arian gan Ymddiriedolaeth Elusennol Neuadd Llanofer, a rhoddion gan ddwy gefnogwraig hael, Helen Lloyd Jones a Margaret le Grice, prynodd y ganolfan dri pheiriant gwnïo gorgloi newydd, a byrddau a haearnau smwddio.

 

Bu'r tiwtor gwnïo o raglen Dysgu am Oes y Cyngor, Ceri Ring, yn cefnogi'r gwirfoddolwyr drwy roi manylion technegol a chyfarwyddiadau wrth eu gweithfannau yn Neuadd Llanofer tra bod gwirfoddolwyr eraill yn cynhyrchu'r tiwnigau o gartref.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Daeth yr argyfwng Coronafeirws ag ymdeimlad gwirioneddol o ysbryd cymunedol i'r amlwg, a sut y gallwn helpu ein gilydd drwy amseroedd heriol. Mae hwn yn broject gwych yn Neuadd Llanofer ac rwy'n diolch i bawb a fu'n ymwneud â'r gwaith - yn staff ac yn aelodau o'r cyhoedd, ac mae eu hymdrechion wedi gwneud llawer i ddiogelu staff ymrwymedig y GIG wrth iddynt weithio."

 

Meddai'r wirfoddolwraig Irene Read: "Rwy'n berson ymarferol sydd wedi mwynhau gwnïo ar hyd fy mywyd fel oedolyn.  Roedd yr angen am sgrybiau ychwanegol yn ymddangos fel ffordd y gallwn helpu'r staff meddygol, o bellter mawr, wrth iddynt fynd i'r afael â feirws Covid.

 

"Gobeithio y bydd y staff meddygol sy'n gwisgo'r tiwnigau yma'n synhwyro'r parch sydd gennyf i a menywod eraill y "Frigâd Tiwnigs" yng Nghaerdydd a'n sbardunodd ni i wirfoddoli ar gyfer y project hwn."