Back
Mae Diwrnod Chwarae Caerdydd yn mynd ar-lein ar gyfer 2020
Mewn unrhyw flwyddyn arall ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol, byddai cannoedd o blant yn mwynhau digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi’i drefnu gan Dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn un o fannau gwyrdd y ddinas.

Eleni, gyda’r rheolau’n dal i wahardd casgliadau mawr o bobl oherwydd y coronafeirws, mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein trwy gyfres o fideos sy’n llawn syniadau a gweithgareddau i helpu i sicrhau bod Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar ddydd Mercher 5 Awst yn ddiwrnod llawn chwarae o hyd!

 
I fwynhau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, ewch i Ddigwyddiad Facebook Diwrnod Chwarae Cenedlaethol a gynhelir ar dudalen Facebook Cyngor Caerdydd ar 5 Awst a dilynwch y dolenni. Cofiwch 'Wneud sŵn ar gyfer Chwarae' a'i rannu ar gyfryngau cymdeithasol am 2pm.

Mae partneriaid sydd hefyd yn postio cynnwys fideo ar y diwrnod yn cynnwys: Dechrau'n Deg, Llyfrgelloedd Caerdydd, Chwaraeon Cymru, Menter Caerdydd, Caer Heritage, Flourish, Tîm Chwarae Cyngor Wrecsam, Tîm Chwarae Cyngor Conwy.

https://www.facebook.com/events/239971406962410/