Back
Cyflwyno mesurau diogelwch COVID mewn pedair canolfan siopa ardal

 07/08/20


Bwriedir dechrau ar y gwaith o addasu pedair o ganolfannau siopa ardal Caerdydd i helpu busnesau i fasnachu'n ddiogel drwy'r pandemig COVID a galluogi ymwelwyr i gadw at reoliadau ymbellhau cymdeithasol.

Bydd cyfnod cyntaf y gwaith yn digwydd ar ddydd Sul, 9 Awst. Bydd yn gweld tri chynllun dros dro yn cael eu gosod gan ddefnyddio bolardiau coch a gwyn er mwyn ehangu palmentydd yn Pontcanna Street, oddi ar Heol y Gadeirlan; yn Stryd Fawr Llandaf; ac wedi’u gosod ar Merthyr Road yn yr Eglwys Newydd.

Caiff cynllun tebyg ei osod wedyn yn Merthyr Road, ger y gyffordd â Hermon Heill yn Nhongwynlais yn gynnar yr wythnos nesaf. Bydd planwyr gyda choed yn cael eu gosod ym mhob un o'r pedwar lleoliad yn ddiweddarach yn y mis. 

Mae'r gwaith hwn yn dilyn cynllun peilot Wellfield Road, lle cafodd palmentydd eu lledu, roedd caffis a bariau'n cael creu mannau estynedig ar gyfer masnachu y tu allan, ac roedd coed newydd wedi cael eu gosod mewn planwyr i wneud yr ardal siopa'n fwy gwyrdd.

Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynllunio ail gyfnod o waith ar gyfer pob un o'r pedwar cynllun, a fydd yn cynnwys disodli'r bolardiau coch a gwyn dros dro gyda chyrbau wedi'u bolltio, a gosod tarmac newydd ar yr estyniad palmant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'n flaenoriaeth i'r Cyngor roi cyfle i fasnachwyr lleol allu masnachu'n ddiogel ac o fewn cyfyngiadau cyfredol y Llywodraeth.  Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag aelodau lleol a busnesau lleol ar y cynlluniau hyn.  Rydym am sicrhau bod y mesurau sy'n cael eu cyflwyno, yn fuddiol ac yn gweithio i'r cymunedau lleol yr ydym yn ceisio’u helpu.

"Mae'r lle y tu allan i'r busnesau hyn yn bwysig iddyn nhw, oherwydd er gwaethaf y cyhoeddiad a wnaed yn ddiweddar am y fasnach letygarwch sy'n masnachu dan do, mae'r gallu i'w cwsmeriaid fwyta neu yfed y tu mewn yn eithaf cyfyngedig oherwydd y rheolau ymbellhau cymdeithasol dau fetr."

Bydd y pedwar cynllun yn cadw'r un faint o fannau parcio i bobl anabl a mannau llwytho fel sydd ar gael ar hyn o bryd.