Back
Yr ardal chwarae yn Llyn Parc y Rhath ymysg yr 21 o ardaloedd chwarae yng Nghaerdydd sy'n ailagor

07/08/20

Caiff 21 o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfleuster poblogaidd yn Llyn Parc y Rhath, eu hailagor y penwythnos hwn. Bydd agor y cyfleusterau hyn yn golygu bod 90 o safleoedd ledled y ddinas ar gael i'w defnyddio.

Mae'r ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl. Os yw'r siglenni wedi'u symud o ardal chwarae, mae hynny'n golygu nad yw'r ardal wedi ailagor eto a bod y siglenni wedi'u symud er mwyn eu datglymu a'u hailosod, cyn ailagor yr ardal.

Bydd 21 o ardaloedd chwarae yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn (8 Awst). Dyma nhw:

Parc y Bragdy (Adamsdown); Parc y Gamlas (Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Iau (Butetown); Ffordd y Sgwner - Plant Bach (Butetown); Heol Trelai (Caerau); Parc Treseder (Caerau); Parc Fictoria - Plant Bach (Treganna) Parc Fictoria - Plant Iau (Treganna); Ardal chwarae Creigiau (Creigiau a Sain Ffagan); Llyn Parc y Rhath (Cyncoed); Parc y Tyllgoed (Y Tyllgoed); Rosedale (Y Tyllgoed); Matthew Walk (Llandaf); Heol Sedgemoor (Llanrhymni); Roath Rec (Plasnewydd); Parc Peppermint (Pontprennau a Llaneirwg); Gerddi Llyfrgell y Morfa (Sblot); Cemaes Crescent - Plant Bach (Trowbridge); Cemaes Crescent - Plant Iau (Trowbridge); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Iau (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais); Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Iau (Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais)

 

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo Covid-19 - er enghraifft, mae seddau rhai siglenni wedi eu symud i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw.

I helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

 

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r cyfarpar;
  • dilyn gofynion ynghylch cadw pellter cymdeithasol;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • cael uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Y 70 ardal chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Man agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown(Adamsdown);Rhodfa Belmont (Butetown); Parc Britannia(Butetown);Rhodfa Craiglee(Butetown);Parc Hamadryad(Butetown);Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon(Butetown);Esplanâd Windsor(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Emerson Close(Caerau);Heol Homfrey(Careau);Parc Trelai(Caerau);Parc Jiwbilî(Treganna); Sanatorium Road - Plant Bach(Treganna);Llwybr Chwarae Parc Bute(Cathays);Gerddi Cogan(Cathays);Parc Maendy(Cathays);Rhydlarfer(Creigiau a Sain Ffagan);Heol Green Farm(Trelái);Heol Wilson - Plant Bach(Trelái);Heol Wilson - Plant Iau(Trelái);Beechley Road(Y Tyllgoed); Clos Chorley(Y Tyllgoed);Cilgant Whitland(Y Tyllgoed); Parc Maitland(Gabalfa);Maitland Road - ardal ystwytho(Gabalfa);Parc y Grange(Grangetown); Y Marl - Plant Bach(Grangetown); Y Marl - Plant Iau(Grangetown);Parc y Mynydd Bychan(Y Mynydd Bychan); Heol y Delyn(Llys-faen);Rhodfa Mill Heath(Llys-faen);Parc Hailey - Plant Bach(Ystum Taf);Bryn Glas - Plant Iau(Llanisien);Bryn Glas - Plant Bach(Llanisien);Heol y Barcud(Llanisien);Cilgant St Martin - Plant Iau(Llanisien);Sgwâr Watkin(Llanisien);Tir Hamdden Tredelerch(Llanrhymni);Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn);Parc Coed y Nant(Pentwyn);Waun Fach(Pentwyn);Garth Newydd(Pentyrch);Garth Olwg(Pentyrch);Heol Penuel(Pentyrch);Gerddi Cyncoed(Pen-y-lan);Heol Hammond(Pen-y-lan); Sovereign Chase(Pen-y-lan);Gerddi Shelly(Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau / Llaneirwg);Cwm Farm - Plant Iau(Radur);Cwm Farm - Plant Bach(Radur);Fisherhill Way(Radur / Pentre-poeth);Gerddi Despenser - Plant Iau(Glan-yr-afon);Gerddi Despenser Gardens - Plant Bach(Glan-yr-afon);Stryd Wyndham(Glan-yr-afon);Heol Greenway(Tredelerch);Sgwâr Beaufort(Sblot);Clos Horwood(Sblot);Parc y Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Clos Wilkinson(Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais);Ironbridge Road(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

 

Caiff mwy o safleoedd eu hailagor yn yr wythnosau nesaf. Dilynwch ni ar Twitter @cyngorcaerdydd neu ar Facebook @cardiff.council1 i gael diweddariadau.