Back
Canolfan Ffitrwydd CF11 i ail-agor

07/08/20 

ByddFfitrwydd CF11, y ganolfan hamdden a weithredir gan y Cyngor yn Nhrem-y-môr, yn ail-agor o ddydd Llun, 10 Awst. 

Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith yn y cyfleuster er mwyn galluogi ymbellhau cymdeithasol priodol a sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae iechyd a lles y preswylwyr yn bwysig iawn, efallai'n fwy nag erioed, felly mae'n newyddion gwych bod y ganolfan yn awr yn barod i groesawu pobl yn ôl gyda mesurau diogelwch newydd Covid-19."

Mae ailagor y cyfleuster hwn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y fenter gymdeithasol GLL, sy'n gweithredu canolfannau hamdden Better yng Nghaerdydd ar ran Cyngor Caerdydd, yn ailagor eu cyfleusterau yn raddol o ddydd Mawrth 11 Awst.

Bydd y cam cyntaf yn gweld ail-agor campfeydd, gofodau stiwdio ac ardaloedd ymarferol corff yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain, Canolfan Hamdden y Tyllgoed, Canolfan Hamdden Llanisien, Canolfan Maendy, Canolfan Hamdden y Gorllewin a Chanolfan Star.

Bydd Canolfannau Maendy, Star a'r Tyllgoed hefyd yn agor eu pyllau ar gyfer nofio lonydd a sesiynau i oedolion a phlant..

Bydd angen i bobl sydd am ddefnyddio cyfleusterau Better Caerdydd angen cadw slot amser ymlaen llaw drwy app Better UK neu fynd i wefanBetter Caerdydd.

Gall aelodau canolfannau Better Caerdydd nad ydynt yn ail-agor yn y cam cychwynnol yn gallu defnyddio cyfleusterau amgen heb gost ychwanegol. Byddant hefyd yn cael opsiwn i barhau i rewi eu haelodaeth.

Mae Neuadd Gymuned Treganna dal ar gau ar hyn o bryd, nes cael canlyniadau asesiad Iechyd a Diogelwch llawn, i sicrhau y gellir ei defnyddio mewn ffordd sy'n bodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol.

I gefnogi'r arlwy gwyliau'r ysgol i blant agored i niwed, bydd tîm Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd yn gweithredu o ysgolion yn ystod yr haf.