07/08/20
Preswylwyr Caerdydd yw'r hapusaf yng Nghymru gyda gwasanaethau eu cyngor, datgelodd arolwg newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg ar raddfa fawr o oedolion ar draws y wlad, sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau fel lles a barn pobl am wasanaethau cyhoeddus.
Yn y flwyddyn adrodd o Ebrill 2019 i Fawrth 2020 canfu'r arolwg mai trigolion Caerdydd oedd y rhai mwyaf bodlon yng Nghymru gyda gwasanaethau a ddarparwyd gan eu cyngor.
Pan ofynnwyd am eu barn ynghylch a yw eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, atebodd 58% o breswylwyr a arolygwyd yn y brifddinas eu bod yn cytuno; dywedodd 22% nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno; ac roedd 21% yn anghytuno.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn beth da i'w weld. Er gwaethaf y toriadau enfawr i'n cyllideb - gyda bron i chwarter biliwn o bunnau wedi'i arbed dros y 10 mlynedd diwethaf - rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o wella perfformiad y Cyngor. Mae'r arolwg annibynnol hwn yn dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir, ond ni fyddwn yn gorffwys yma. Rwyf am i breswylwyr wybod nad ydym yn hunanfodlon a'n bod wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu haeddu.
"Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal cyn y cyfnod cloi COVID-19, sydd wir wedi dwyn sylw ein holl feddyliau at bwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus da. Rwy'n falch iawn o'r ymroddiad, y gwaith a'r dewrder a ddangoswyd gan ein holl staff sydd wedi mynd i'r eithaf yn ystod y pandemig i sicrhau bod yr effaith o'r cyfnod cloi ar y preswylwyr cyn lleied â phosibl. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r gweithwyr hynny unwaith eto am eu holl ymdrechion. Ond ni fyddwn yn edrych yn ôl, ein nod yw gwella bob amser yr hyn a wnawn ar gyfer trigolion ein dinas."
O 2016-17 ymlaen mae Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys pynciau a gynhwyswyd yn flaenorol yn Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a'r Arolwg Oedolion Egnïol. Mae'r brif flwyddyn adrodd yn rhedeg o fis Ebrill bob blwyddyn hyd at fis Mawrth y flwyddyn ganlynol, gyda chanlyniadau manwl yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.
Mae'r arolwg ffôn yn cynnwys dros 1,000 o bobl y mis, gyda'r pynciau'n cael eu diweddaru bob mis. Mae'n cynnwys sampl gynrychioliadol ar hap o bobl 16+ oed ledled Cymru, gan gynnwys pobl sy'n fwy anodd eu cyrraedd a phobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi asesu'r arolwg yn annibynnol a chadarnhaodd ei fod yn bodloni safonau Ystadegau Gwladol o ran bod yn ddibynadwy, o ran ansawdd a gwerth.
Mae'r arolwg llawn ar gael i'w weld yma:
https://gov.wales/national-survey-wales-results-viewer
| A yw'r awdurdod lleol a enwir yn darparu gwasanaethau o safon uchel (cwestiwn diwygiedig) |
| |||||||||||||||||||
Awdurdod Lleol | Cytuno | Ddim yn cytuno na'n anghytuno | Anghytuno |
| |||||||||||||||||
| % | CH Isaf | CH Uchaf | % | CH Isaf | CH Uchaf | % | CH Isaf | CH Uchaf |
| |||||||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| |||||||||||
Caerdydd | 58 | 54 | 61 | 22 | 19 | 25 | 21 | 18 | 23 |
| |||||||||||
Gwynedd | 57 | 52 | 63 | 22 | 17 | 26 | 21 | 17 | 26 |
| |||||||||||
Sir Ddinbych | 55 | 49 | 61 | 26 | 21 | 31 | 19 | 14 | 24 |
| |||||||||||
Rhondda Cynon Taf | 54 | 50 | 59 | 20 | 17 | 24 | 25 | 22 | 29 |
| |||||||||||
Sir Gaerfyrddin | 53 | 48 | 58 | 25 | 20 | 29 | 22 | 18 | 27 |
| |||||||||||
Conwy | 52 | 46 | 58 | 25 | 19 | 30 | 23 | 18 | 28 |
| |||||||||||
Sir Fynwy | 52 | 45 | 58 | 19 | 14 | 24 | 29 | 24 | 35 |
| |||||||||||
Sir Benfro | 51 | 45 | 56 | 23 | 18 | 28 | 26 | 21 | 31 |
| |||||||||||
Sir y Fflint | 51 | 45 | 56 | 19 | 15 | 24 | 30 | 26 | 35 |
| |||||||||||
Torfaen | 49 | 42 | 56 | 22 | 16 | 28 | 29 | 22 | 35 |
| |||||||||||
Ynys Môn | 48 | 42 | 54 | 25 | 20 | 31 | 27 | 22 | 32 |
| |||||||||||
Castell-nedd Port Talbot | 47 | 42 | 52 | 21 | 17 | 26 | 31 | 27 | 36 |
| |||||||||||
Bro Morgannwg | 46 | 40 | 52 | 28 | 23 | 34 | 26 | 20 | 31 |
| |||||||||||
Ceredigion | 45 | 39 | 51 | 30 | 24 | 36 | 25 | 19 | 30 |
| |||||||||||
Caerffili | 44 | 39 | 49 | 25 | 21 | 30 | 31 | 26 | 35 |
| |||||||||||
Casnewydd | 44 | 38 | 50 | 24 | 19 | 29 | 32 | 26 | 37 |
| |||||||||||
Abertawe | 42 | 37 | 46 | 29 | 25 | 33 | 29 | 25 | 33 |
| |||||||||||
Merthyr Tudful | 37 | 31 | 44 | 23 | 18 | 29 | 39 | 33 | 46 |
| |||||||||||
Wrecsam | 34 | 29 | 40 | 30 | 24 | 36 | 36 | 30 | 41 |
| |||||||||||
Powys | 34 | 31 | 38 | 29 | 26 | 32 | 36 | 33 | 40 |
| |||||||||||
Pen-y-Bont Ar Ogwr | 34 | 28 | 39 | 23 | 18 | 28 | 43 | 38 | 49 |
| |||||||||||
Blaenau Gwent | 29 | 23 | 34 | 21 | 16 | 26 | 51 | 45 | 57 |
| |||||||||||
Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019-20. Maint y sampl: | 10,100 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| |||||||||
Nodiadau |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| |||||||||
Cwestiwn: 'Newidyn deilliedig - Awdurdod Lleol '. | |||||||||||||||||||||
Cwestiwn: 'Mae [enw'r awdurdod lleol] yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.' Cyflwynwyd yn 2019-20. Defnyddiwch hwn at ddibenion dadansoddi.. | |||||||||||||||||||||
|
| Lwfans Ansicrwydd: |
|
| |||||||||||||||||
|
| Manwl gywir (o fewn +/-2%) |
|
| |||||||||||||||||