Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n ymdrin â'r canlynol: mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn ceisio ceisiadau am aelodaeth a barn ar beth ddylai ei flaenoriaethau fod; mae amser o hyd i gael lleisio barn ar gynlluniau i wella Tudor Street; agallwch gysylltu â thîm canolfan gyswllt C2C tan 8pm drwy'r gwasanaeth gwe-sgwrsio byw.
Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd
Mae anghydraddoldeb hiliol yn parhau i fodoli yng Nghaerdydd, Cymru a'r DU. Yn hydref 2020, bydd Cyngor Caerdydd yn cynnull Tasglu Cydraddoldeb Hiliol i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y ddinas.
Bydd y Tasglu yn arwain camau gweithredu cydlynol a strategol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghaerdydd, ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a chyflogwyr pwysig y ddinas. Bydd yn gyfrifol am hyrwyddo rhaglen o newid a thrawsnewid er mwyn creu dinas decach i'n preswylwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Yn ystod haf 2020, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ffrydiau gwaith â blaenoriaeth y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol er mwyn deall beth ym marn ein preswylwyr yw'r problemau mwyaf, a'r cyfleoedd mwyaf, i drigolion Caerdydd sydd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, fel y gallwn ganolbwyntio ein syniadau a'n hadnoddau i ganfod yr atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.
Rydym yn chwilio am geisiadau ar gyfer Aelodaeth y Tasglu gan unigolion sydd â mewnwelediad a diddordeb mewn hil, ethnigrwydd a hawliau dynol sydd â'r gallu, y profiad, y cyfle a'r dylanwad i wneud newidiadau yn eu sector, eu diwydiant a'u sefydliadau.
Bydd Aelodau'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn cefnogi Cadeirydd y Tasglu, y Cynghorydd Saeed Ebrahim, i gyflawni rhaglen waith sy'n cyflawni'r amcanion canlynol:
Ffurflen Gais ar gyfer Ymaelodi â'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol:
Canllawiau Gwneud Cais y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol:
Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi i timcydraddoldeb@caerdydd.gov.uk erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 18 Medi 2020, erbyn 5pm.
Ymgynghoriad: Eich blaenoriaethau ar gyfer Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd
Er mwyn paratoi ar gyfer lansio'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, rydym yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn preswylwyr Caerdydd, yn enwedig y rheini o gefndiroedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ar flaenoriaethau strategol y Tasglu.
Rydym am wybod beth yw barn ein preswylwyr ar y problemau mwyaf, a'r cyfleoedd mwyaf, i drigolion Caerdydd sydd o gefndiroedd Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, fel y gallwn ganolbwyntio ein syniadau a'n hadnoddau i ddod o hyd i'r atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.
Gweld yr ymgynghoriad yma:
https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159680484480
Hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street
Bydd Tudor Street yng Nghaerdydd yn elwa ar raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr ag ardal Glan-yr-afon.
Bydd cam un y datblygiad yn gweld £1m yn cael ei fuddsoddi mewn safleoedd masnachol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yng nghynllun gwella adeiladau Tudor Street.
Mae cyllid pellach o tua £3m wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith yn gynnar yn 2021 a fydd yn galluogi trawsnewidiad mawr i amgylchedd y stryd gyfan.
Mae ymgynghoriad ar waith 2021 yn cau ar 17 Awst, a nod y cynllun yw cyflawni:
Cliciwch yma i weld yr ymgynghoriad ac i ddweud eich dweud:
Siaradwch â ni ar-lein
Os oes angen i chi siarad â ni ar ôl 6pm does dim angen aros i'n llinellau ffôn agor eto yn y bore.
Gallwch gysylltu â thîm canolfan gyswllt C2C tan 8pm drwy'r gwasanaeth gwe-sgwrsio byw.
Darllenwch fwy yma:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Cysylltu-ar-Cyngor/Siaradwch-a-ni-arlein/Pages/default.aspx