Back
Cyllid wedi’i gymeradwyo ar gyfer cam cyntaf

  

13/08/2020
Mae rhwydwaith gwresogi ardal newydd gwerth £26.5 miliwn, a fydd yn defnyddio pibellau tanddaearol i gludo gwres o gyfleuster adfer ynni i fusnesau a chartrefi yng Nghaerdydd, wedi sicrhau £15 miliwn i ddechrau cam cyntaf y gwaith.

Bydd Rhwydwaith Gwresogi Dinas Caerdydd yn defnyddio gwres a gynhyrchir yng Nghyfleuster Adfer Ynni Viridor ym Mharc Trident, sy'n dargyfeiriotua 350,000 o dunelli o wastraff na ellir ei ailgylchu o safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae'r gwaith yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tua 68,448 o aelwydydd.

Ni fydd adeiladau sy'n cysylltu â'r rhwydwaith angen defnyddio nwy i wresogi eu heiddo mwyach, gan leihau biliau ac allyriadau carbon y ddinas.

Mae'r project newydd - y cyntaf o'i fath yng Nghymru - wedi cael cymorth drwy fenthyciad o £8.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru a grant o £6 miliwn gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael: "Dyma gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon-isel newydd, a gyflenwir gan gyfleusterau presennol yn y ddinas. Mae'r Rhwydwaith Gwres yn un o brojectau allweddol y Cyngor yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd, felly mae hwn yn newyddion cyffrous iawn.

"Yn ôl dadansoddiad, os yw'r holl wres sydd ar gael o'r peiriannau'n cael ei ddefnyddio'n llawn, gallem arbed 5,600 tunnell o garbon bob blwyddyn a gallai'r cwsmeriaid a oedd wedi ymuno â'r rhwydwaith leihau eu biliau ynni blynyddol bump y cant ar gyfartaledd, tra'n lleihau allyriadau carbon eu system wresogi hyd at 80%.

"Mae'r achos busnes yn dangos bod cam cyntaf y rhwydwaith yn ariannol ddichonadwy a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Ganolog sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r project hwn gydag arian parod fel bod gwaith cam cyntaf yn gallu mynd allan i dendr ac y gallwn ni ddechrau adeiladu."

Bydd cam cyntaf y rhwydwaith gwres yn darparu gwres i nifer o adeiladau mawr yn y ddinas yn gychwynnol, gan gynnwys Neuadd y Sir (neu bencadlys arall y Cyngor), yr Arena Dan Do newydd, Canolfan y Mileniwm, Tŷ Hywel, prif adeilad Coleg Caerdydd a'r Fro a Thŷ Tresilian.

Gallai'r rhwydwaith fod yn weithredol o fewn dwy flynedd o waith gosod yn dechrau.

Bydd adeiladau llai eraill, neu rannau o adeiladau hefyd yn cael eu cysylltu â'r rhwydwaith, gan gynnwys rhannau o Ganolfan Butetown, prif fynedfa Canolfan Gymunedol Butetown a Chanolfan Adeiladu Coleg Caerdydd a'r Fro.

Mae trafodaethau ar y gweill hefyd gyda datblygwyr preifat yn edrych i ddatblygu tir o fewn cwmpas cam cyntaf y rhwydwaith gwres.

Ar ôl cyfnod cyntaf y gwaith, gall y rhwydwaith gael ei ymestyn i gwsmeriaid eraill, gan helpu'r ardal i fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.

Mae'r gwres a gynhyrchir drwy wresogi'r gwastraff na ellir ei ailgylchu yng ngwaith Viridor ar dymheredd uchel iawn yn cynhyrchu ager, sydd yn ei dro yn pweru tyrbin i wneud trydan. Drwy droi'r cyfleuster yn fodd gwres a phŵer ar y cyd, mae rhywfaint o'r ager yn cael ei adfer fel dŵr poeth y gellir ei ddosbarthu wedyn drwy rwydwaith o bibellau wedi'u hinswleiddio'n iawn i adeiladau cwsmeriaid.

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi cadarnhad o'r cyllid ar gyfer cam cyntaf Rhwydwaith Gwres Dinas Caerdydd.

"Wrth i ni barhau i leihau allyriadau carbon ledled Cymru, un o'r problemau allweddol y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi yw gwneud ein hadeiladau'n fwy effeithlon o ran ynni, ond hefyd gwella'r ffordd yr ydym yn cael ein gwresogi yn y lle cyntaf.

"Bydd rhwydweithiau gwres fel y rhain yn helpu perchenogion cartrefi a busnesau i ostwng eu biliau ynni - ond bydd hefyd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru."

Dywedodd Prif Weithredwr Viridor, Phil Piddington, fod fflyd o gyfleusterau adfer ynni'r cwmni ar draws y DU wedi'u cynllunio i fod yn weithfeydd gwres a phŵer cyfunedig ac roedd yn falch o weld y potensial hwn yn cael ei wireddu'n llawn ym Mharc Trident.

Dywedodd Mr Piddington: "Mae Viridor wedi datblygu gweithfeydd gwres a phŵer cyfunedig sy'n rhoi diben i wastraff na ellir ei ailgylchu oherwydd dyma sut rydym yn cyfrannu'n ystyrlon at effeithlonrwydd ynni ac adnoddau yn y DU. Y cyfle i weld potensial llawn y CAY Parc Trident yn cael ei wireddu drwy'r project cyffrous hwn yw'r datblygiad naturiol y mae Viridor wedi bod yn gweithio mor galed i'w gyflawni gyda phartneriaid rhwydwaith gwresogi ardal.

 "Bydd trigolion Caerdydd hefyd yn cael y cyfle i weld gwastraff y ffordd y mae Viridor yn ei weld, fel adnodd ac nid sbwriel, ac rydym yn gobeithio bod hyn yn annog dinasoedd eraill a wasanaethir gan gyfleusterau adfer ynni i ddilyn yr enghraifft arloesol hon."

Mae'r Cyngor wedi cysylltu ag adeiladau allweddol a allai gael budd o'r rhwydwaith gwres yn yr ail gyfnod arfaethedig, ond ni chytunwyd ar delerau masnachol eto. Byddai'r cam hwn hefyd yn destun proses dendro ar wahân a chyllid ariannol pellach.

Ymhlith yr adeiladau posibl a allai gysylltu â'r rhwydwaith yn ail gam y datblygiad mae:

Datblygiad y Sgwâr Canolog, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Canolfan Dewi Sant 2, Atrium Bloc A a B, Tŷ Llewelyn, Carchar Caerdydd, Llys Ynadon Caerdydd, Tŷ McKenzie o Brifysgol Caerdydd ac Adeiladau'r Frenhines, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Coleg Chweched Dosbarth Caerdydd, a Llyfrgell Trevellech (Ganolog).

Gallai ymestyn y biblinell heibio i Ganolfan y Mileniwm hefyd weld Pafiliwn Ieuenctid Butetown, Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd, Ysgol Gynradd Mount Stuart, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiad ar safle Porth Teigr a Stiwdios Parc y Rhath yn cael eu cynnwys fel rhan o ail gam y gwaith.

Byddai'r prif bibellau dosbarthu gwres arfaethedig yn cael eu hadeiladu o dan y ddaear, felly bydd tîm y project yn creu cynlluniau ar sut y caiff hyn ei gyflawni fel nad yw'n amharu gormod ar briffyrdd.

Cwmni annibynnol fydd yn berchen ar y rhwydwaith gwres drwy Gerbyn at Ddibenion Arbennig, gyda'r Cyngor yn un o'r prif randdeiliaid.