Back
Dysgu Am Oes Ar-lein

 

14/8/20
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd wedi datblygu ystod o gyfleoedd dysgu newydd a chyffrous, gyda'r cyrsiau yn dechrau'r mis nesaf.

 

Mae llyfryn cyrsiau Dysgu Am Oes bellach ar gael ar-lein ac mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar-lein gan gynnwys celf, crefftau, garddio, TGCh, ieithoedd a mwy ar agor, gyda rhagor o ddosbarthiadau i'w hychwanegu yn yr wythnosau nesaf.

 

Mae'r gwasanaeth wedi addasu i gynnig dysgu ar-lein yng ngoleuni'r mesurau iechyd cyfredol ac mae'n annog dysgwyr i gofrestru i ddysgu trwy ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain o'u cartrefi. Bydd dosbarthiadau'n cael eu cyflwyno trwy Google Classrooms a Microsoft Teams.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Bydd tymor hydref Dysgu Am Oes eleni ychydig yn wahanol oherwydd yr amgylchiadau presennol ond gyda chymorth technoleg, gallwn barhau i gynnig cyrsiau diddorol a hwyliog i ddysgwyr a, gobeithio, ehangu'r gallu i fanteisio ar ein cyfleoedd dysgu.

 

"Mae mwy a mwy o bobl wedi dod yn gyfarwydd â defnyddio eu dyfeisiau a'u llwyfannau ar-lein i gysylltu â'u teuluoedd neu at ddibenion gwaith, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu datblygu amrywiaeth o gyrsiau diddorol y bydd ein tiwtoriaid arbenigol yn eu cyflwyno ar-lein i ddysgwyr.

 

"Mae cynnig cyrsiau ar-lein yn golygu eu bod ar agor i ddysgwyr o unrhyw le, nid yng Nghaerdydd yn unig, ac rydym yn croesawu unrhyw un sydd am gofrestru o'r tu allan.

 

"Mae llawer o bobl wedi manteisio ar y cyfnod cloi gyda mwy o amser rhydd ganddynt gartref i ddechrau hobi newydd neu ailgydio mewn sgìl nad oedd ganddynt amser ar ei gyfer cyn hynny. Mae ein cyrsiau Dysgu Am Oes yn cynnig y cyfle i bobl barhau a gwella yn yr adloniant newydd hwn neu roi cynnig ar rywbeth newydd am y tro cyntaf.

 

"Ni fyddwn yn cynnal dosbarthiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd er diogelwch ein staff a'n dysgwyr ond gobeithiwn allu cynnig dysgu yn y dosbarth eto cyn bo hir, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru."

 

Bydd y cyrsiau'n dechrau ar ddiwedd mis Medi ac er mwyn adlewyrchu'r symudiad at ddysgu ar-lein, mae'r ffioedd ar gyfer tymor yr Hydref wedi gostwng 25%.   I weld llyfryn tymor yr hydref, ewch ihttps://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/

Gellir cadw lle ar-lein neu drwy ffonio 029 2087 1071.