Back
Caeau Llandaf ymhlith yr ardaloedd chwarae diweddaraf i ailagor y penwythnos hwn

14/08/20 

Mae naw ardal chwarae arall i blant yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfleusterau poblogaidd yng Nghaeau Llandaf, i'w hailagor ganol dydd y Sadwrn yma. Ar ôl eu hagor, bydd yn dod â chyfanswm y mannau chwarae sydd ar gael i'w defnyddio yng Nghaerdydd i 100.

Bydd cyfanswm o naw ardal chwarae yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn (15 Awst). Dyma nhw:

  • Parc Llanisien, Llanisien
  • Parkland (Cae Rec y Ddraenen), Llanisien
  • Gerddi Catherine, Tredelerch
  • Heol Runway, y Sblot
  • Rhodfa Crawford, Pontprennau a Llaneirwg
  • Gerddi Kitchener, Glanyrafon
  • Caeau Llandaf - Plant, Glanyrafon
  • Caeau Llandaf - Plant Bach, Glanyrafon
  • Parc Celtig, Yr Eglwys Newydd

 

Mae'r ardaloedd chwarae wedi eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Gwnaed newidiadau i rai ardaloedd chwarae er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Er enghraifft, mae rhai seddi siglenni wedi eu tynnu er mwyn sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal.

Er mwyn helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r cyfarpar;
  • dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • bod ag uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

 

Y 91 ardal chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Sgwâr Adamsdown (Adamsdown); Parc y BragdyAdamsdown;Rhodfa Belmont (Butetown); Parc Britannia(Butetown);Parc y Gamlas (Butetown); Rhodfa Craiglee (Butetown);Parc Hamadryad(Butetown);Sgwâr Hodges (Butetown); Sgwâr Loudon (Butetown); Ffordd y Sgwner i Blant (Butetown); Ffordd y Sgwner i Blant Bach (Butetown);Esplanâd Windsor(Butetown);Clos Emblem(Caerau);Clos Emerson(Caerau);Heol Homfrey(Careau);Heol Trelái (Caerau); Parc Trelái(Caerau);Parc Ffordd Treseder (Caerau); Parc y Jiwbilî (Treganna); Heol y Sanatoriwm - Plant Bach(Treganna); Parc Fictoria - Plant Bach (Treganna); Parc Fictoria - Plant (Treganna);Llwybr Chwarae Parc Bute(Cathays);Gerddi Cogan (Cathays);Parc Maendy(Cathays);Ardal Chwarae Creigiau(Creigiau a Sain Ffagan);Rhydlafar(Creigiau a Sain Ffagan);Parc y Rhath (Cyncoed); Heol Green Farm (Trelái);Heol Wilson - Plant Bach(Trelái);Heol Wilson -  Plant(Trelái);Heol Beechley (Y Tyllgoed); Clos Chorley (Y Tyllgoed); Parc y Tyllgoed (Y Tyllgoed); Clos Rosedale (Y Tyllgoed); Cilgant Hendy-gwyn (Y Tyllgoed); Parc Maitland (Gabalfa); Heol Maitland - ardal ystwythder(Gabalfa); Parc y Tan (Sevenoaks) (Grangetown); Y Marl - Plant Bach (Grangetown); Y Marl - Plant (Grangetown);Parc y Mynydd Bychan(Y Mynydd Bychan);Heol y Delyn(Llys-faen);Rhodfa Mill Heath (Llys-faen);Rhodfa Mathew (Llandaf); Parc Hailey - Plant(Ystum Taf);Parc Hailey - Plant Bach(Ystum Taf);Bryn Glas - Plant(Llanisien);Bryn Glas - Plant Bach(Llanisien);Heol y Barcud(Llanisien);Cilgant Sant Martin - Plant Bach (Llanisien); Cilgant Sant Martin - Plant (Llanisien);Sgwâr Watkin(Llanisien);Cae Rec Tredelerch(Llanrhymni);Heol Sedgemoor (Llanrhymni); Coed y Gores (Pentwyn); Chapelwood (Pentwyn);Parc Coed y Nant(Pentwyn);Waun Fach(Pentwyn);Garth Newydd(Pentyrch);Garth Olwg (Pentyrch);Ffordd Penuel(Pentyrch);Gerddi Cyncoed (Penylan);Ffordd Hammond(Penylan);Sovereign Chase(Penylan);Gerddi Shelley (Plasnewydd); Cae Rec y Rhath (Plasnewydd); Parc Butterfield(Pontprennau a Llaneirwg); Parc Peppermint(Pontprennau & Llaneirwg);Fferm y Cwm - Plant(Radur);Fferm y Cwm - Plant Bach(Radur);Ffordd Fisherhill(Radur/Pentre-poeth);Gerddi Despenser - Plant(Glanyrafon);Gerddi Despenser - Plant Bach(Glanyrafon);Stryd Wyndham (Glanyrafon);Ffordd Greenway(Tredelerch);Sgwâr Beaufort  (YSblot);Clos Horwood(Y Sblot);Gerddi Llyfrgell Moorland (Y Sblot);Parc Sblot(Y Sblot);Parc Tremorfa(Y Sblot);Clos Wilkinson(Y Sblot); Cilgant Cemaes - Plant Bach (Trowbridge); Cilgant Cemaes - Plant (Trowbridge); Heol Maes Eirwg(Trowbridge);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais);Heol Ironbridge(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais;Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant Bach(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais; Gerddi Llyfrgell yr Eglwys Newydd - Plant(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

 

Caiff mwy o safleoedd eu hailagor yn yr wythnosau nesaf. Dilynwch ni ar Twitter @cyngorcaerdydd neu ar Facebook @cardiff.council1 i gael diweddariadau.