Back
Celfyddydau Ymladd Caerdydd yn ailgychwyn eu hyfforddiant yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute

18/08/20

Mae Celfyddydau Ymladd Caerdydd wedi symud eu hystod o ddosbarthiadau i'r cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu gan fod eu lleoliadau dan do arferol wedi cau oherwydd y pandemig.

Mae ailgychwyn y dosbarthiadau ac addasu yn ôl yr amgylchedd awyr agored wedi bod yn hwb mawr i'r gymuned crefftau ymladd, sydd bellach yn gallu ailddechrau hyfforddi yn ddiogel yn unol â'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Mae'r pum cwrt dros dro ym Mharc Bute yn rhan o gynllun i gefnogi sefydliadau a busnesau gyda mannau awyr agored preifat ar gyfer gweithgareddau grŵp sydd fel arfer yn digwydd dan do ond nad ydynt yn gallu digwydd o dan ganllawiau presennol y llywodraeth.

Ers ei lansio, mae nifer o grwpiau cymunedol wedi gallu ailafael yn eu gweithgareddau ac mae'r tîm ym Mharc Bute yn parhau i gymryd archebion ar gyfer unrhyw grwpiau sy'n chwilio am amgylchedd diogel i weithio ynddo.

Darllenwch fwy i gael gwybod sut y manteisiodd Gareth Peake, Hyfforddwr Crefftau Ymladd Caerdydd, ar y cynllun.

Ble rydych chi'n ymarfer fel arfer?

Fel arfer, rydym yn hyfforddi dan do, mewn neuadd eglwys leol, ysgol gynradd a hyb y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae'r lleoliadau hynny ar gau dan ganllawiau'r llywodraeth.

Beth mae'n ei olygu i allu ailddechrau eich busnes fel hyn?

Mae ailgychwyn wedi bod yn hwb mawr i'n cymuned Celf Ymladd. Mae gweld ein gilydd, hyfforddi yng nghwmni ein gilydd, yn hytrach nag ar sgrin, wir wedi codi ein morâl fel grŵp, a fy un i fel hyfforddwr. Mae ein haelodaeth wedi cynyddu'n sylweddol hefyd.

Sut cawsoch chi'r broses o archebu lle a gwneud i'ch sesiynau weithio y tu allan?

Roedd archebu'r lle awyr agored yn syml, ac roedd tîm Parc Bute yn gymwynasgar ac yn frwd iawn i ni ddefnyddio'r lle.

Beth ydy'r pethau cadarnhaol am ailddechrau a sut brofiad ydy cymryd rhan yn eich sesiynau yn y Gored Ddu?

Rwy'n gwybod bod yr aelodau wedi ei chael hi'n wych cyfarfod yn bersonol eto, roedd yna wefr go iawn yn ein grwpiau, yn enwedig yn y sesiynau cyntaf y tu allan. Maent wedi mwynhau hyfforddi yn yr awyr agored ac mae'n amgylchedd hardd, mae'r olygfa ar draws y caeau gyda'r coed yn gefndir yn wych.

Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi un o'r cyrtiau awyr agored neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys prisiau, ewch i dudalennau gwybodaeth  Parc Bute.