Back
Teyrnged farddonol i weithiwr allgymorth digartref wnaeth 'achub bywyd'


19/8/20
Mae mam ddiolchgar i ddyn o Gaerdydd fu'n cysgu ar strydoedd y ddinas wedi anfon neges bwerus o ddiolch i'r tîm a helpodd ei mab i sicrhau newid go iawn yn ei fywyd.

 

Fe ffilmiodd y fam - Philippa - ei hun yn darllen cerdd emosiynol a gyfansoddodd, yn talu teyrnged i weithiwr cymorth sydd wedi helpu Michael ar ei daith i ffwrdd o'i fywyd ar y stryd.

 

Mae'r gerdd, a stori Philippa, yn rhoi cipolwg pwysig ar y rhesymau cymhleth a all arwain at rywun yn dod yn ddigartref, a sut nad yw datrys y mater mor syml â rhoi to dros ben person.

 

Mae Philippa yn diolch i Sian Farrugia, gweithiwr allgymorth yn nhîm amlddisgyblaethol y ddinas am yr holl amser a'r cymorth y mae hi wedi'u rhoi i helpu Michael i gael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn.

 

Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fynd i'r afael ag anghenion cymorth sylfaenol unigolion sy'n cysgu ar y stryd ac mewn hosteli, ac mae wedi cael cryn lwyddiant wrth gynorthwyo unigolion sy'n agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau a sicrhau newid hirhoedlog a pharhaol. Mae'r tîm hwn yn cynnwys nyrs iechyd meddwl a gweithiwr cymdeithasol; gweithwyr cyffuriau ac alcohol; y gallu i ddefnyddio gwasanaethau rhagnodi cyflym, nyrsys gofal sylfaenol, cwnselydd a gweithwyr therapiwtig; mentoriaid cymheiriaid a nyrsys gofal sylfaenol.

 

Yn y gerdd, disgrifir Sian fel 'gweithiwr gwyrthiol' sydd wedi bod yn gefn i Michael yn ystod blwyddyn anoddaf ei fywyd, pryd y bu'n cysgu ar strydoedd y ddinas cyn dechrau ymgysylltu â'r tîm allgymorth a symud i lety dros dro.

 

Mae Sian, a ddechreuodd ei rôl yn y Tîm Amlddisgyblaethol fel eiriolwr cyn symud i'w safle allgymorth presennol, wedi parhau i weithio gyda Michael dros y 12 mis diwethaf ac mae e bellach yn byw yn ei fflat ei hun drwy'r project Llety â Chymorth i Fyw'n Annibynnol (SAIL).

 

Mae Philippa yn canmol Sian am y gwaith anhygoel mae hi'n ei wneud, am gredu yn Michael, am ei hempathi, ei gwybodaeth, ei hamynedd a'i gofal. Mae hi'n disgrifio sut mae pobl fel Sian yn achub bywydau mewn gwirionedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae cerdd Philippa yn deyrnged wych i'r holl bobl ymroddedig sy'n gweithio i helpu pobl ddigartref yng Nghaerdydd, gan wneud eu gorau glas i gefnogi unigolion agored i niwed, ac wrth gwrs, yn fwy penodol, Sian o'n Tîm Amlddisgyblaethol.

 

"Mae'n amlwg yn ddarn emosiynol iawn ac yn gipolwg gwerthfawr ar fater cymhleth digartrefedd a'r materion gwaelodol sy'n gallu arwain at ddigartrefedd.

 

"Am yr union reswm hwn y sefydlwyd ein Tîm Amlddisgyblaethol, gan ddod â sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ynghyd, a all fynd at wraidd problemau unigolyn a sicrhau ei fod yn cael y cymorth cywir, yn y lleoliad cywir, a fydd yn ei alluogi i aros oddi ar y strydoedd.

 

"Mae wedi bod yn rhan allweddol o'r llwyddiannau diweddar yr ydym wedi'u cyflawni sydd wedi cynnwys llawer mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn symud ymlaen i raglenni trin cyffuriau sy'n newid bywydau a llawer llai yn cysgu ar strydoedd y ddinas. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyfan positif hwn, er mwyn cyflawni newid gwirioneddol wrth ail-lunio gwasanaethau i'r digartref yn y ddinas ar gyfer y dyfodol. ‘Dim mynd yn ôl' yw ein hagwedd ni.

 

"Bydd y TA yn chwarae rhan allweddol yn y weledigaeth hon ac rwy'n ddiolchgar i Philippa am y ffordd wych hon o adael i Sian a'i chydweithwyr wybod faint mae eu gwaith diflino yn cael ei werthfawrogi, ac am daflu goleuni ar y mater pwysig hwn."

 

 

Dywedodd Sian:  "Mae Michael wedi gwneud cynnydd aruthrol ac mae ei benderfyniad a'i ffocws drwy gydol cyfnod anodd iawn wedi dangos cryfder ei gymeriad ac rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o'i daith.

 

"Roeddwn wedi fy nghyffwrdd i dderbyn y fath ddiolch personol ac emosiynol gan Philippa ac roedd yn hollol annisgwyl. Roedd teimladau cymysg iawn wrth i mi ei ddarllen.  Roeddwn i'n chwerthin ac yn crio drwyddi draw! Roeddwn i'n gwerthfawrogi'r teimlad yn fawr ac yn ddwfn."

 

 

Meddai Philippa: "Roeddwn i'n arfer ysgrifennu cerddi ar gyfer penblwyddi arbennig yn y teulu ac roeddwn i eisiau dangos i Sian faint roedden ni'n gwerthfawrogi'r hyn roedd hi wedi'i wneud, mewn ffordd anarferol. Roedd mor braf dod ar draws rhywun oedd yn deall Michael ac yn deall y teimladau o dan yr ymddygiad anodd.

 

"Rydym yn caru ein mab yn ddiamod ond roedd angen arno'r math o gefnogaeth na allem ei roi ar ein pennau ein hunain.  Gweithiodd Sian a'i thîm gydag ef ond fe weithiodd gyda mi hefyd, a oedd yn chwa o awyr iach."