Back
Cynydd yn nifer yr achosion Covid-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Bu cynnydd yn y dyddiau diwethaf yn nifer gyfartalog yr achosion positif o COVID-19 yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gyda chynnydd amlwg yng Nghaerdydd ei hun.

Y gyfradd heintio bresennol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg yw 10.8 fesul 100,000.

Er y disgwylir amrywiadau dyddiol yn y ffigurau, mae nifer yr achosion newydd yng Nghaerdydd, dros y 7 diwrnod diwethaf, wedi codi i 13.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth. 

Mae'r cynnydd hwn wedi gweld niferoedd yr achosion lleol yn symud o fod yn sylweddol is na'r cyfartaledd yn Lloegr i fod yn uwch na'r cyfartaledd (y cyfartaledd yn Lloegr yw 11.9 fesul 100,000 o bobl ar 18 Awst).

O fewn hyn, mae cyfradd y profion sy'n cael canlyniad positif hefyd wedi cynyddu, o 0.3% ar ddechrau mis Awst i 2.3% dros y 7 diwrnod diwethaf.  

Mae'r ffigurau diweddaraf, a rennir gan bartneriaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro, hefyd yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion ymhlith oedolion yn eu 20au a'u 30au.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Caerdydd a'r Fro: "Mae'r rhan fwyaf o'r achosion wedi bod yn gysylltiedig â nifer fach o glystyrau rydym wedi bod wrthi'n ymchwilio iddynt ac yn eu rheoli.

"Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn yn dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa newid. Dylai ein hatgoffa bod y feirws yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau, ac na ellir ymddwyn yn ddifater. 

"Wrth i fesurau cloi cenedlaethol barhau i gael eu llacio, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn cydnabod bod y feirws yn cael ei ledaenu gan bobl, a'n bod i gyd yn cymryd ein cyfrifoldeb i'n gilydd o ddifrif.

"Mae cynnydd nodedig mewn achosion ymhlith oedolion ifanc yn eu 20au a'u 30au. Er y gallai rhai oedolion iau deimlo nad yw COVID yn effeithio arnynt ac yn awyddus i ddychwelyd i gymdeithasu fel y gwnaethant cyn y pandemig, dylent wybod mai diffyg cadw pellter cymdeithasol a pheidio â chadw at grwpiau aelwydydd estynedig a ddewiswyd sy’n debygol o fod yn achosi'r cynnydd hwn. 

"Mae'n hawdd llithro'n ôl i'r ffordd yr oeddem yn arfer byw ein bywydau ond mae'n rhaid i ni gofio cadw ein pellter, parhau i olchi dwylo'n rheolaidd, ac mewn sefyllfaoedd lle nad yw hyn yn bosibl aros dau fetr ar wahân a gwisgo gorchudd wyneb. Profwyd yn ystod y misoedd diwethaf bod yr holl fesurau hyn yn effeithiol."

Mae partneriaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro, sy'n gweld Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal Covid-19 rhag lledaenu yn y rhanbarth, ar hyn o bryd yn cynnal tua 450 o brofion bob dydd.

Ar ôl canfod achos positif newydd o COVID-19 bydd y tîm olrhain yn cysylltu â’r unigolyn sydd wedi cael prawf positif i roi gwybod iddo y dylai ei aelwyd hunan-ynysu hefyd ac i ofyn iddo rannu gwybodaeth am ei gysylltiadau diweddar.

Wedyn bydd y tîm yn defnyddio’r wybodaeth honno i hysbysu’r unigolion hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael diagnosis a gadarnhawyd o’r coronafeirws er mwyn dweud wrthynt beth y dylent ei wneud a sut y gallant gael cymorth os oes ei angen arnynt.

Mae partneriaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro wedi dilyn 98% o achosion positif, a thros y 6 wythnos diwethaf cynhaliwyd 90% o'r rhain o fewn 24 awr.

Dylai unrhyw un sy’n datblygu peswch parhaus newydd, y dwymyn, neu’n cael anhawster arogli neu flasu, hunanynysu a chael prawf coronafeirws ar-lein ar unwaith.